Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais i:

  • ddarganfod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer eich datblygiad arfaethedig
  • deall rhai o’r ffactorau a all effeithio arnoch chi cyn i chi ei gyflwyno’n swyddogol i’r Awdurdod

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn defnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais cyn rhoi cais swyddogol.

Sylwch na all swyddogion roi unrhyw gyngor dros y ffôn. Rhaid i chi lenwi ffurflen Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

Beth sydd angen i mi ei baratoi?

Er mwyn i chi gael adborth cynhwysfawr ar eich datblygiad arfaethedig, bydd angen i chi baratoi a darllen y canlynol:

Bydd angen i chi gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl wrth lenwi’r ffurflen hon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys gwybodaeth am eich datblygiad arfaethedig, y deunyddiau rydych yn bwriadu eu defnyddio ac a oes potensial ar gyfer newid defnydd ai peidio.

Mae cynllun lleoliad yn fap sy’n dangos lleoliad eich datblygiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’r cynllun lleoliad ar raddfa safonol (er enghraifft, 1:2500, 1:1250 neu 1:500) a bod y cynllun yn dangos y cyfeiriad i’r gogledd yn glir. Bydd angen i chi hefyd amlinellu lleoliad eich datblygiad arfaethedig mewn coch.

Y ffordd orau o greu cynllun lleoliad yw defnyddio gwasanaeth creu cynllun lleoliad. Chwiliwch am ‘planning location map’ ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i sawl cwmni sy’n cynnig y gwasanaeth hwn.

Mae cynlluniau safle a gweddlun yn gynlluniau sy’n dangos maint, siâp a lleoliad eich datblygiad arfaethedig yng nghyd-destun yr adeiladau o’i amgylch.

Gallwch ddarparu’r wybodaeth yma fel brasluniau os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth ‘Cyngor Cyn Cyflwyno Cais. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod eich lluniadau:

  • dangos mesuriadau eich datblygiad arfaethedig mewn unedau metrig
  • wedi’i labelu fel y gall y swyddogion cynllunio ddeall yn glir y bwriadau y tu ôl i’ch datblygiad arfaethedig

Mae enghreifftiau o arfer da i’w gweld yn Nodiadau Arweiniol Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

Dylech ddarparu ffotograffau o safle’r datblygiad arfaethedig ac unrhyw adeiladau cyfagos. Gwnewch yn siŵr bod eich ffotograffau yn rhoi trosolwg da i’r swyddogion cynllunio o’ch safle datblygu arfaethedig.

Beth fydd yr Awdurdod yn ei gynnwys yn ei adborth?

Fel rhan o’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais, bydd swyddog cynllunio o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn adolygu eich datblygiad arfaethedig ac yn rhoi sylwadau ar sawl elfen, gan gynnwys:

  • Cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch i wneud y datblygiad
  • Rhoi gwybod i chi os yw eich datblygiad yn torri unrhyw reolau neu bolisïau cynllunio
  • Rhoi cyngor i chi ar yr hyn y bydd angen i chi ei gynnwys wrth gyflwyno eich cais cynllunio swyddogol. Gall dilyn y cyngor hwn arwain at broses cais cynllunio gyflymach.

Fel arfer byddwch yn derbyn adborth ar eich cynlluniau o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich cais.

Faint mae’r gwasanaeth Cyngor Cyn Ymgeisio yn ei gostio?

Mae cost y gwasanaeth yn dibynnu ar y math o ddatblygiad yr ydych yn bwriadu ei ddatblygu.

  • Cadarnhad o Ganiatâd Cynllunio
    I gynghori a oes angen caniatad cynllunio arnoch.
    Cost: Am ddim
  • Deiliad y ty
    Adeiladu estyniad, garej neu sied.
    Cost: £25
  • Datblygiad bach
    Adeiladu tŷ newydd, addasu ysgubor neu ddatblygu maes gwersylla.
    Cost: £250
  • Datblygiad mawr
    Datblygu 10-24 o dai neu ddatblygiadau newydd ag arwynebedd llawr rhwng 1,000–1,999 metr sgwâr.
    Cost: £600
  • Datblygiad sylweddol fawr
    Datblygu mwy na 24 o dai neu ddatblygiadau gydag arwynebedd llawr o fwy na 1,999 metr sgwâr.
    Cost: £1000
  • Ymholiad cyn cyflwyno cais ar Adeiladau Rhestredig
    Gwaith ar adeiladau rhestredig.
    Cost: Am ddim

Cyfarfod safle cyn cyflwyno’r cais

Yn dilyn ymlaen o ymateb i ymholiad cyn cyflwyno cais, mae modd trefnu cyfarfod safle gyda swyddog cynllunio. Byddai ffi ychwanegol o £100 yn daladwy am hyn a byddai angen ei thalu cyn cynnal unrhyw gyfarfod.

Mae angen ffi o £100 nawr hefyd ar gyfer unrhyw gyfarfodydd safle cyn cyflwyno cais ar gyfer Adeilad Rhestredig.

Ffurflen Gais a Nodiadau Canllaw

Darllenwch y Nodiadau Canllaw yn drylwyr cyn cwblhau eich cais. Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen gais, ebostiwch hi at cyngorcais@eryri.llyw.cymru a chynnwys unrhyw wybodaeth ategol.

Dylid anfon ymholiadau post at:
Rheoli Datblygu
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Lawrlwytho Ffurflen Gais

Lawrlwytho Nodiadau Cyfarwyddyd