Mae gwrychoedd yn rhan bwysig o dirwedd wledig y Parc Cenedlaethol. Maent yn chwarae rhan hanfodol mewn:

  • atal erydiad pridd
  • darparu lloches i fywyd gwyllt
  • rheoli da byw
  • diogelu tir a chnydau rhag erydiad gwynt

Mae gwrychoedd gwledig yn aml yn cael eu gwarchod dan reoliadau fel Rheoliadau Gwrychoedd 1997.

Sut ydw i’n gwybod a yw gwrych yn cael ei warchod?

Mae tri ffactor yn pennu a yw gwrych yn cael ei warchod. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hyd
  • lleoliad
  • pwysigrwydd

Cofiwch y gall gwrychoedd hefyd gynnwys coed. Mae rhagor o wybodaeth am wrychoedd gwarchodedig ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Gwrychoedd Gwledig (Gwefan gov.uk)

Cael gwared ar wrych gwledig

Mae gwrychoedd gwledig yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997. Mae’r rheoliadau yn datgan ei bod yn anghyfreithlon i gael gwared ar wrychoedd yng nghefn gwlad heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Gwneud cais am ganiatâd i dynnu gwrych

Os ydych yn bwriadu tynnu gwrych o fewn y Parc Cenedlaethol, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ynghyd â’r ffurflen gais mae nodiadau canllaw sy’n esbonio’r gofynion ar gyfer y cais ymhellach.

I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno ceisiadau i’r Awdurdod, ewch i’r dudalen Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio.

Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio