Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Mae’r prinder tai fforddiadwy yn fater cenedlaethol ac yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o gymunedau yn Eryri.

Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn adeiladu tai nac yn awdurdod tai. Fodd bynnag, fel yr Awdurdod sy’n gyfrifol am gynllunio yn y Parc Cenedlaethol, mae’n ceisio sicrhau bod adeiladau newydd neu addasiadau y math y mae pobl sy’n byw ac yn gweithio’n lleol ei angen.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyflawni hyn drwy:

  • ei bolisïau yng Nghynllun Datblygu Lleol Eryri a Canllaw Cynllunio Atodol  ar Dai Fforddiadwy
  • cefnogi gwaith Hwyluswyr Tai Gwledig sy’n gweithio ar ran cymunedau lleol i gynnal arolygon ar anghenion o ran tai a dod o hyd i atebion wedi’u teilwra i fodloni anghenion tai lleol
  • gweithio’n agos gydag Awdurdod Tai Lleol Gwynedd ac Awdurdod Tai Lleol Conwy.
  • gweithio’n agos â’rcymdeithasau tai sy’n gweithreduym Mharc Cenedlaethol Eryri sef Grŵp Cynefin, Adra a Cartrefi Conwy

Beth mae ‘tai fforddiadwy i fodloni angen lleol’ yn ei olygu?

Mae tai fforddiadwy yn cynnwys tai rhent cymdeithasol, tai rhent fforddiadwy a thai canolraddol, sy’n cael eu darparu i aelwydydd cymwys sydd ag angen o ran tai. Rhaid i ddarpar feddianwyr tai fforddiadwy hefyd fodloni’r meini prawf person lleol. Mae’r diffiniad o ‘angen ty’ a ‘lleol’ wedi’i gynnwys ar dudalennau 80-81 o Gynllun Datblygu Lleol Eryri.

I gael esboniad o ddiffiniadau Llywodraeth Cymru o dai fforddiadwy yr ydym yn ei ddefnyddio, edrychwch ar Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Mae Awdurdod y Parc yn defnyddio cytundebau cyfreithiol, a elwir yn Gytundebau Adran 106, i sicrhau bod tai’n parhau i fod yn fforddiadwy i berson lleol, nid yn unig i’r preswylydd cyntaf ond hefyd i breswylwyr y dyfodol.

Beth ddylwn i ei wybod os wyf am adeiladu tŷ neu ddatblygiad newydd?

Mae Awdurdod y Parc wedi paratoi nodiadau canllaw ar gyfer ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflwyno cais cynllunio am dŷ fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.

Gwybodaeth Cais Tai Fforddiadwy (PDF)

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae tudalen 76-82 o Gynllun Datblygu Lleol Eryri yn amlinellu’r polisïau perthnasol a restrir isod:

  • Polisi Strategol G: Tai
  • Polisi Datblygu 30: Tai Fforddiadwy
  • Polisi Datblygu 11: Tai Fforddiadwy ar Safleoedd Eithriedig

Cynllun Datblygu Lleol Eryri

Mae canllawiau atodol y Cynllun Datblygu Lleol yn cynnwys adran ar dai fforddiadwy.

Canllaw Cynllunio Atodol

Mae copi o gytundeb cyfreithiol Adran 106 ar gael gan Adran Gyfreithiol yr Awdurdod.