Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Mae’r gwasanaeth cydymffurfio yn cael ymholiadau am dor-rheolaeth cynllunio tybiedig o sawl ffynhonnell, gan gynnwys grwpiau cymunedol, unigolion a Chynghorau Cymuned.

Gall unrhyw un sy’n dymuno gofyn i’r Awdurdod ymchwilio i dor-rheolaeth cynllunio honedig wneud hynny drwy gyfrwng un o’r dulliau canlynol:

  • Trwy ysgrifennu llythyr
  • e-bost
  • trwy ddefnyddio’r map rhyngweithiol i hysbysu tor-rheolaeth cynllunio honedig
  • drwy lenwi’r ffurflen sydd ynghlwm

Dylai’r ohebiaeth ysgrifenedig gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn gallu ymchwilio’n effeithiol i’r mater, a fyddech gystal â chynnwys yr wybodaeth a ganlyn ble bynnag bosibl:

  • Enw’r person neu’r cwmni sy’n cynnal y gweithgareddau diawdurdod honedig;
  • Cyfeiriad yr adeilad neu’r safle;
  • Manylion y cwyn, pryd y dechreuodd y gwaith diawdurdod, a yw’n dal i barhau a pha mor aml mae’n digwydd; a
  • Manylion y problemau penodol a ddaw yn ei sgîl.

Gwasanaeth o ba safon allaf i ei ddisgwyl?

Os ydych yn cofnodi cwyn gyda’r Awdurdod, gallwch fod yn sicr:

  • Ni fyddwn yn datgelu eich manylion, oni bai fod barnwr neu ynad yn gorfodi’r datgeliad;
  • Cydnabyddir y gwyn yn ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod gwaith o’i derbyn;
  • Estynnir gwahoddiad i gyflwyno sylwadau ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio sy’n codi yn sgîl y gwyn; ac
  • Fe’ch hysbysir ynglŷn â chanlyniad y gwyn, pryd (os o gwbl) y bydd y camau gorfodi yn dechrau, a phryd y byddant wedi’u cwblhau yn foddhaol.

Bwriedir ymateb a chyflwyno rhybudd gorfodaeth neu gyffelyb sy’n angenrheidiol er mwyn datrys y gwyn cyn pen 12 wythnos. Mae pob rhybudd gorfodaeth yn cynnwys yr hawl i gyflwyno apêl, a all fod yn broses hir.

Pa gamau fydd yr Awdurdod yn eu cymryd unwaith y byddaf wedi cwyno?

Wrth weithredu mewn perthynas â chwyn a gafwyd, byddwn yn ymchwilio’r mater trwy gasglu gwybodaeth a chynnal archwiliadau ar y safle. Byddwn yn trafod y mater gyda’r person / cwmni dan sylw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth a all ddangos pwy sydd wedi gwneud y gwyn.

Os yw ein hymchwiliad yn datgelu bod yna dor-rheolaeth cynllunio, rhoddir gwybod i’r person / cwmni sydd a wnelo’r mater ynglŷn â nhw, beth fydd rhaid iddo ef / hi wneud i unioni’r sefyllfa, ac erbyn pryd.

Mae gan yr Awdurdod amrediad eang o bwerau i ymdrin â thor-rheolaeth cynllunio tybiedig neu wirioneddol, sy’n amrywio o rybudd ysgrifenedig anffurfiol i rybuddion gorfodi, ac weithiau gwaharddebau. Wrth ymdrin â phob achos unigol, byddwn yn asesu pa bŵer a fydd fwyaf priodol i ddatrys y mater yn foddhaol, parhaol a chost effeithiol.

Sut i fynegi pryder ynghylch datblygiad

Gallwch godi pryder am ddatblygiad trwy gysylltu â’r Awdurdod neu ddefnyddio’r ‘Map Cyflwyno Cwyn’ rhyngweithiol.

Map Cyflwyno Cwyn