Mae problemau technegol yn amharu ar ein system Ceisiadau Cynllunio ar-lein. Mi fydd cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn.

Mae p’un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer eich datblygiad arfaethedig yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys maint eich datblygiad, lleoliad eich datblygiad a’r math o ddatblygiad yr ydych chi’n bwriadu ei gyflawni.

Mae’n gallu bod yn dasg anodd gwybod os oes angen caniatâd cynllunio arnoch os nad ydych yn gyfarwydd â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.

Sut gallaf gadarnhau os oes angen caniatâd cynllunio arnaf?

Y ffordd orau o gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch yw defnyddio’r gwasanaeth ‘Cyngor Cyn Cyflwyno Cais’.

Mae defnyddio’r wasanaeth i gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer eich datblygiad arfaethedig yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, codir tâl am unrhyw gyngor pellach.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais

Gallwch hefyd benodi ymgynghorydd cynllunio, asiant neu bensaer i’ch helpu i ddeall mwy am y broses gynllunio. Dylent fod yn gyfarwydd â’r polisïau a’r rheolau cynllunio sydd yn eu lle ar draws gwahanol leoliadau. Gallant hefyd baratoi a chyflwyno cais cynllunio ar eich rhan.

Nodwch na all swyddogion cynllunio yr Awdurdod roi cyngor ar gynigion datblygu dros y ffôn. Bydd angen defnyddio’r wasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais i dderbyn adborth.

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob datblygiad ym Mharc Cenedlaethol Eryri?

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob datblygiad ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae rhai mathau o ddatblygiadau yn dod o dan y categori ‘Hawliau Datblygu a Ganiateir’, sy’n golygu na fydd angen caniatâd cynllunio arnoch i wneud y gwaith.

Fodd bynnag, os ydych yn ansicr, argymhellir eich bod yn cyflwyno ymholiad Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

Gwybodaeth am ddatblygiadau posib

Mewn rhai achosion, gallwch adeiladu estyniad ar eich tŷ heb ganiatâd cynllunio, ond mae’n dibynnu ar:

  • faint yr estyniad, er enghraifft, os ydyw’n estyniad un llawr neu dau lawr
  • lleoliad yr estyniad, er engraifft, os y bydd yn cael ei godi ar weddlun ochr neu gefn eich tŷ
  • defnydd arfaethedig yr estyniad, er enghraifft, os ydych yn ei adeiladu at ddefnydd masnachol

Y ffordd orau o wybod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch i adeiladu estyniad yw defnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais neu benodi ymgynghorydd cynllunio i’ch helpu.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais

Mae addasiadau i do adeilad o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol angen caniatâd cynllunio. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • ymestyn to
  • symud, gosod neu wneud newidiadau i simnai
  • gosod ffenestr do neu ‘dormer’
  • ail-doi adeilad gyda deunyddiau sy’n wahanol i ddeunydd presennol y to

Yn gyffredinol, nid oes angen caniatâd cynllunio os ydych yn bwriadu ail-doi tŷ neu adeiladu mewn modd tebyg am debyg. Hynny yw, rydych yn ail-doi adeilad gyda’r un deunyddiau ag oedd yno’n barod, er enghraifft, ail-doi to llechi gyda llechi newydd.

Gall gwaith ar atig neu do effeithio ar ystlumod. Mae angen ichi ystyried rhywogaethau a warchodir wrth gynllunio gwaith ar y math hwn. Mae’n bosibl y bydd angen arolwg, ac os yw ystlumod yn defnyddio’r adeilad, efallai y bydd angen trwydded i wneud unrhyw waith.

Mae angen caniatâd adeilad rhestredig os ydych yn bwriadu ail-doi tŷ neu adeilad rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Cyngor Cyn Cyflwyno Cais’ i weld a oes angen caniatâd cynllunio arnoch i adeiladu yn eich gardd neu gwrtil. Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth os ydych yn bwriadu:

  • adeiladu sied, tŷ haf, swyddfa gartref, garej neu unrhyw adeilad allanol arall
  • gosod decin neu deras sy’n uwch ‘na uchder penodol
  • gosod tanciau nwy neu olew
  • waliau cynnal
  • llawr caled / patios
  • pwll nofio / pwll / carafanau statig

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob cyntedd, ond bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd os yw eich cyntedd neu bortsh:

  • ag arwynebedd llawr o fwy na 3 metr sgwâr
  • yn sefyll dros 3 metr o uchder
  • o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ
  • o fewn 2 fetr i ffordd gyhoeddus, llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig os ydych yn adeiladu cyntedd neu bortsh ar adeilad rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os yw’r ffens, wal neu giât:

  • yn uwch na 2 fetr neu;
  • ger briffordd ac yn sefyll ar uchder uwch na 1 metr

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig i osod ffens, wal neu giât ar adeilad rhestredig neu ar dir adeilad rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Yn gyffredinol, gallwch osod dysglau lloeren ac erialau teledu ar adeilad neu dŷ heb ganiatâd cynllunio.

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch os ydych yn gosod dysgl lloeren neu erial teledu ar adeilad neu dŷ rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Cyngor Cyn Cyflwyno Cais’ os ydych yn bwriadu gosod paneli solar, pympiau gwres neu dyrbinau gwynt. Bydd y gwasanaeth yn cadarnhau a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod y dechnoleg.

Nid yw pob math o dechnoleg microgynhyrchu yn gofyn i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig i osod technoleg microgynhyrchu mewn cysylltiad ag adeilad rhestredig.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
Caniatâd Adeilad Rhestredig

Yn gyffredinol nid oes angen caniatâd cynllunio i osod drysau neu ffenestri newydd ar adeilad neu dŷ.

Mae angen caniatâd adeilad rhestredig os ydych yn gosod ffenestri neu ddrysau newydd ar adeilad neu dŷ rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Fel arfer nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i:

  • gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw fel gosod drysau neu ffenestri newydd ar sail tebyg am debyg
  • addurno eich tŷ
  • gwneud newidiadau mewnol megis dymchwel waliau mewnol

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw waith y tu mewn neu du allan i dŷ neu adeilad rhestredig.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Bydd angen caniatâd cynllunio i orchuddio unrhyw ran o dŷ neu strwythur gyda charreg naturiol neu artiffisial, gro chwipio (pebble dash), rendrad, pren, plastig, metel neu deils. Bydd angen caniatâd hefyd os ydych am insiwleiddio eich tŷ yn allanol.

Nid oes angen caniatâd cynllunio os ydych yn bwriadu ailosod, ail-rendro neu ail-orchuddio tu allan eich tŷ neu adeilad ar sail tebyg am debyg. Hynny yw, rydych chi’n ailorchuddio’r adeilad gyda’r un deunyddiau ag oedd yno’n barod, er enghraifft, ailgladio wal deils gyda theils newydd.

Bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer cladin, rendrad neu insiwleiddio tu allan adeilad rhestredig, hyd yn oed ar sail tebyg am debyg.

Caniatâd Adeilad Rhestredig

Mae p’un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer addasu atig yn dibynnu ar raddfa’r gwaith yr ydych yn bwriadu ei gyflawni.

Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i addasu eich atig os yw’r gwaith yn gofyn am:

  • ymestyn neu ehangu gofod y to, er enghraifft gosod ‘dormer’ neu newid uchder y to presennol neu uchder crib
  • gosod ffenestr do
  • tynnu, gosod neu wneud newidiadau i simnai

Os yw eich eiddo yn adeilad rhestredig bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer unrhyw waith mewnol neu allanol, yn ogystal â chaniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith a nodir uchod.

Gall gwaith ar atig neu do effeithio ar ystlumod. Mae angen ichi ystyried rhywogaethau a warchodir wrth gynllunio gwaith ar y math hwn. Mae’n bosibl y bydd angen arolwg, ac os yw ystlumod yn defnyddio’r adeilad, efallai y bydd angen trwydded i wneud unrhyw waith.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
Caniatâd Adeilad Rhestredig

Bydd angen i chi ymgynghori â swyddogion cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri os ydych yn bwriadu dymchwel eich tŷ, rhan o’ch tŷ neu unrhyw adeiladau allanol. Os yw’r adeilad yn rhestredig bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig arnoch.

Efallai y bydd angen caniatâd neu ‘gymeradwyaeth ymlaen llaw’ i ddymchwel adeilad; mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys math a maint yr adeilad a ble mae wedi’i leoli.

Cyn dechrau ar unrhyw waith, dylech ofyn i’ch awdurdod cynllunio lleol am gyngor i ganfod beth sydd ei angen ar gyfer y gwaith dymchwel sydd gennych mewn golwg. Bydd hyn yn lleiahu’r risg o unrhyw gamau cyfreithiol yn eich erbyn.

Gall enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae angen caniatâd penodol cyn y gellir cynnal gwaith dymchwel gynnwys:

  • Ardaloedd cadwraeth – Mae cyfyngiadau mewn lle mewn perthynas â chynnal gwaith dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth. Bydd angen cyflwyno cais ffurfiol oni bai ei fod yn bodloni meini prawf penodol.
  • Adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig – Mae’r rhain yn dod o dan ddeddfwriaeth wahanol a bydd angen math gwahanol o gais.