Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Mae rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio yn ddau beth gwahanol. Prif ddiben rheoliadau adeiladu yw:

  • sicrhau bod datblygiad yn bodloni safonau iechyd a diogelwch
  • ystyried effeithlonrwydd ynni datblygiad
  • sicrhau mynediad a chyfleusterau i bobl ag anableddau

Gwaith adeiladu sydd angen cymeradwyaeth

Yn gyffredinol, rhaid i bob gwaith datblygu fodloni safonau rheoliadau adeiladu. Bydd hyd yn oed datblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn aml yn gofyn am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Gwybodaeth am Reoliadau Adeiladu

Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfrifol am reoliadau adeiladu yn y Parc Cenedlaethol. Mae Cynghorau Gwynedd a Chonwy yn gyfrifol am faterion rheoliadau adeiladu. Mae rhagor o wybodaeth am reoliadau adeiladu ar gael ar wefannau’r cyngor.

Rheolaeth Adeiladu (Cyngor Gwynedd)

Rheoli Adeiladu (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)