Mae ardaloedd cadwraeth wedi’u dynodi i warchod rhinweddau unigryw ac arbennig ardal. Mae dros 100 o ardaloedd cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol.
Os yw coeden o fewn ardal gadwraeth, efallai y bydd angen caniatâd arnoch i wneud gwaith arni, gan gynnwys:
- torri neu ddadwreiddio’r goeden
- tocio canghennau’r goeden
- gwneud unrhyw waith a allai niweidio’r goeden
Fodd bynnag, os yw diamedr boncyff y goeden o dan 75mm wedi’i fesur 1.5 metr uwchlaw lefel naturiol y ddaear, gallwch wneud gwaith arno heb ganiatâd.
Dylech hefyd ystyried a yw’r goeden wedi’i diogelu dan Orchymyn Cadw Coed ai peidio.
Gwneud cais am ganiatâd i weithio ar goeden mewn ardal gadwraeth
Cyn i chi wneud gwaith ar goeden sydd mewn ardal gadwraeth, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno ceisiadau i’r Awdurdod, ewch i’r dudalen Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio.
Gweithio ar goeden farw neu beryglus o fewn ardal gadwraeth
Os yw’r goeden rydych yn bwriadu gweithio arni yn farw neu’n beryglus, ni fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith arni. Fodd bynnag, rhaid i chi roi rhybudd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol o leiaf 5 diwrnod cyn gwneud y gwaith.