Mae’r Iaith Gymraeg yn un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae’r iaith yn rhan annatod o blethiad cymunedau ac yn adlewyrchu ei thraddodiadau a’i diwylliant.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried effeithiau posib  sydd gan datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Bydd yr Awdurdod yn:

  • cefnogi datblygiad sy’n cynnal neu’n gwella’r Gymraeg
  • gwrthod datblygiad a fyddai, oherwydd ei faint, graddfa neu leoliad, yn achosi niwed arwyddocaol i gydbwysedd ieithyddol cymuned
  • annog arwyddion gan gyrff cyhoeddus, cwmnïau masnachol a busnes i fod yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg yn unig
  • annog y defnydd o enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer datblygiadau newydd, tai ac enwau strydoedd