Beth yw ymweliad safle?
Cyflwynir adroddiad ysgrifenedig i’r Aelodau yn y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad. Bydd y Swyddog Cynllunio yn egluro’r cais ar y diwrnod, gan amlinellu unrhyw faterion penodol sy’n codi o’r cais a dangos lluniau o safle’r datblygiad.
On occasion, describing the issues and showing pictures isn’t sufficient to assess the application fully, in which case a visit to the site is needed.
O dro i dro, nid yw disgrifo’r materion a dangos lluniau o’r safle yn ddigon i asesu’r cais yn llawn. Ar yr achlysuron yma, gall ymweliad gyda safle’r datblygiad fod yn gymorth i wneud penderfyniad ynghylch y cais.
Mae’r penderfyniad i gynnal ymweliad safle yn cael ei wneud gan y Pwyllgor. Gall swyddogion naill ai argymell ymweliad safle neu gall yr Aelodau benderfynu fod cynnal ymweliad yn briodol. Gall y Pwyllgor benderfynu gwahodd swyddog o sefydliad arall i’r ymweliad safle e.e. Yr Adran Briffyrdd, Asiantaeth yr Amgylchedd ac ati, i ateb unrhyw ymholiadau technegol sydd ganddynt.
Cynhelir ymweliadau safle gan baneli arolygu. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddau banel archwilio – un panel i ogledd y Parc ac un arall i’r de.
Rhennir Aelodau’r Pwyllgor rhwng y ddau banel arolygu.
Sut mae ymweliad safle yn cael ei drefnu?
Ar ôl cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, bydd yr holl geisiadau sydd angen ymweliad safle yn cael eu rhannu rhwng paneli archwilio’r gogledd a’r de yn unol a’u lleoliad a bydd amserlen ymweliadau yn cael ei llunio.
Bydd swyddogion wedyn yn cysylltu â’r ymgeisydd a/neu eu hasiant cyn gynted â phosibl i’w hysbysu o’r ymweliad (rhoddir o leiaf 24 awr o rybudd). Bydd swyddogion yn gwahodd cynrychiolwyr o unrhyw sefydliadau eraill perthnasol yn ogystal.
Beth sy’n digwydd mewn ymweliad safle?
Mae Swyddog Cynllunio yn bresennol ym mhob ymweliad safle.
Y Cadeirydd sydd yn gyfrifol am gynnal ymweliad trefnus ac effeithlon. Bydd yr aelodau’n archwilio’r safle gan roi pwyslais arbennig ar y meysydd sy’n peri pryder, ac yn trafod y materion sy’n codi.
Gall y Cadeirydd ofyn cwestiynau ffeithiol i’r ymgeisydd neu ei asiant (os yw’n bresennol) am y cais. Yn yr un modd, gellir gofyn i unrhyw gynrychiolwyr o sefydliadau eraill sy’n bresennol i egluro gwybodaeth dechnegol sy’n berthnasol i’r cais.
Yna, bydd y panel archwilio fel arfer yn dod i gasgliad ynghylch eu barn ac yn eu cyflwyno yn y Pwyllgor Cynllunio nesaf.
A allaf fynychu ymweliad safle?
Nid yw ymweliadau safle’n cael eu hysbysebu’n gyhoeddus gan y datblygwr, ac mae’r rhan fwyaf yn digwydd ar dir preifat. Fel aelod o’r cyhoedd ni allwch fel arfer fynychu ymweliad safle oni bai eich bod wedi cael gwahoddiad ymlaen llaw.
A allaf annerch y Panel Arolygu?
Nid oes cyfle i aelodau’r cyhoedd annerch y panel archwilio ar y safle fel rheol.
Mae cyfleoedd eraill i gyflwyno sylwadau ar y cais cynllunio. Gallwch gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac yna gallwch gyflwyno cais i annerch y Pwyllgor Cynllunio.