Mae ardaloedd o bwysigrwydd cadwraeth natur yn y Deyrnas Unedig yn cael eu diogelu o dan ddarnau amrywiol o ddeddfwriaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Natura 2000 yw enw’r rhwydwaith o safleoedd cadwraeth natur trwy’r Undeb Ewropeaidd. Sefydlwyd y rhwydwaith hwn o dan Gyfarwyddeb 92/43/EEC ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid (y ‘Gyfarwyddeb Cynefinoedd’). Mae’r rhwydwaith hwn yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).
Mae ACA yn ardaloedd sy’n cynrychioli’r ystod ac amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau Ewropeaidd orau (ac eithrio adar) sydd wedi’u rhestru yn Atodiadau I a II o’r Gyfarwyddeb. Mae AGA yn ardaloedd a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar fel y cynefinoedd pwysicaf ar gyfer adar prin (a restrir yn Atodiad I o’r Gyfarwyddeb) ac adar mudol yn yr Undeb Ewropeaidd. Gall ACA ac AGA ymestyn i ddyfroedd tiriogaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylai safleoedd a ddynodwyd o dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol, y cytunwyd arno yn Ramsar, Iran ym 1971, gael eu trin yr un fath, yn nhermau cynllunio, â safleoedd Natura 2000.
Bwriad gwreiddiol y Confensiwn oedd diogelu safleoedd pwysig, yn enwedig cynefin adar y dŵr, ond mae wedi ehangu ei gwmpas dros y blynyddoedd i drin â phob agwedd ar gadwraeth gwlyptiroedd a defnydd doeth ohonynt, a chydnabod gwlyptiroedd fel ecosystemau sy’n hynod bwysig ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth yn gyffredinol ac ar gyfer lles cymunedau dynol.
Ar lefel genedlaethol, mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ers 1949 wedi datblygu’n gyfres o safleoedd â darpariaethau statudol dros ddiogelu enghreifftiau gorau o blanhigion, anifeiliaid, neu nodweddion daearegol neu ffisiograffig y Deyrnas Unedig. Mae’r safleoedd hyn hefyd yn cael eu defnyddio i fod yn sail i ddynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Cafodd y SoDdGA eu cyhoeddi’n wreiddiol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a chawsant eu hailgyhoeddi o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Cyflwynodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (yng Nghymru a Lloegr) ddarpariaethau gwell i ddiogelu a rheoli’r SoDdGA.
Dynodiad cenedlaethol arall a gyflwynwyd gan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 oedd y Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Mae GNG yn cynnwys enghreifftiau o rai o’r ecosystemau tiriogaethol ac arfordirol naturiol a lled naturiol pwysicaf ym Mhrydain Fawr. Maent yn cael eu rheoli i warchod eu cynefinoedd neu i ddarparu cyfleoedd arbennig ar gyfer astudiaeth wyddonol o gymunedau’r cynefinoedd, a’r rhywogaethau sydd ynddynt.
Mae GNG yn cael ei chyhoeddi gan yr asiantaethau cadwraeth gwlad statudol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Mae’r holl ddynodiadau uchod i’w canfod yn y Parc Cenedlaethol.
Mae Adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr i ystyried, wrth gynnal ei swyddogaethau, y diben o warchod bioamrywiaeth. Pwrpas allweddol y ddyletswydd hon yw sicrhau bod ystyried bioamrywiaeth yn rhan annatod o wneud penderfyniadau a llunio polisïau yn y sector cyhoeddus.
O dan y gofyniad yn adran 42 o’r Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o’r mathau o gynefinoedd sydd, ym marn y Llywodraeth, o’r pwys pennaf i’r diben o warchod bioamrywiaeth yng Nghymru.