Mae ardal gadwraeth yn cael ei ddiffinio fel ardal o “ddiddordeb pensaernïol neu bwysigrwydd hanesyddol, ble mae cymeriad neu edrychiad yn ddymunol i’w ddiogelu neu fireinio” (Deddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990)
Mae 14 ardal gadwraeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri; mae’r rhain wedi eu dynodi am eu diddordeb hanesyddol a phensaernïaeth arbennig.
Y nod o ddynodi ardaloedd cadwraeth yw sicrhau nad yw’r cymeriad yn cael ei niweidio, ddinistrio neu danseilio gan newidiadau amhriodol i’r elfennau sy’n ffurfio’r ardal.
Nid adeiladau yn unig sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig o fewn ardaloedd cadwraeth, ond y deunyddiau a ddefnyddir, hanes, manylion pensaernïol a thirlunio medal a chaled gan gynnwys coed.
Map ardaloedd Cadwraeth
Gallwch weld ardaloedd cadwraeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ar fap rhyngweithiol.