Cyfarwyddyd Erthygl 4
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn Ardal Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Rhybudd Cadarnhau wedi ei osod a bydd y newid yn weithredol o’r 1af o Fehefin 2025. O’r dyddiad yma, bydd angen derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo preswyl i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol.
Hysbysiad Cyhoeddus Cyfarwyddyd Erthygl 4
Cefndir
Fel rhan o fesurau i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio (gweler gwybodaeth bellach ar waelod y dudalen hon).
Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio yn golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.
Paratowyd papur yn amlinellu’r amgylchiadau eithriadol er mwyn cyfiawnhau’r bwriad.
Cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Hysbysiad Cyfarwyddyd Erthygl 4 a chynhaliwyd cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd rhwng 12 Ebrill a 24 Mai 2024.
2024 – Hysbysiad Cyhoeddus: Cyfarwyddyd Erthygl 4
Pwrpas Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir canlynol:
- Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
- Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.
Yn dilyn y cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ym mis Ebrill a Mai 2024, ac ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd, penderfynodd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr Awdurdod ar 22 Ionawr 2025 gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad, 22 Ionawr 2025
Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus
Mae Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd wedi ei baratoi, yn ogystal ag Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg ar wahân. Mae’r rhain wedi cael eu haddasu yn ystod y broses o baratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn offeryn cynllunio sy’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.
Ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad nid oes angen derbyn caniatâd cynllunio, sef yr hyn a elwir yn ‘hawliau datblygu a ganiateir’.
Serch hynny, trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, mae modd i Awdurdod Cynllunio Lleol fynnu caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau mewn ardal benodol a fyddai fel arall ddim angen derbyn hawl cynllunio ar gyfer y defnydd
Fel rhan o ymdrechion i geisio rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Deddfau Cynllunio perthnasol. Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr.
Mae yna ddosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:
Dosbarth C3 – Tai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Prif Gartref),
Dosbarth C5 – Tai annedd a ddefnyddir mewn modd ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Ail Gartref)
Dosbarth C6 – Llety tymor byr (Llety Gwyliau Tymor Byr).
Ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau defnydd penodol yma heb yr angen am hawl cynllunio. Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, bellach mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Os bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gyflwyno, bydd modd i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad. Byddai hyn yn ei wneud yn ofynnol i berchnogion eiddo preswyl dderbyn caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn newid defnydd eu heiddo i ddefnydd penodol.
Os bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gadarnhau, ac yr ydych yn berchen ar dŷ preswyl (sydd yn brif gartref) yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Eryri ac eisiau ei drosi i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol, bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer ymgymryd â’r newid defnydd hynny.
Os ydych yn berchen ar dŷ sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol (cyn 1 Mehefin 2025) – ni fydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio ar y defnydd presennol.
Mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi galw am newidiadau i sicrhau gwell rheolaeth o’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau, boed yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr. Ymgyrchwyd ar gyfer y newid hwn fel rhan o ymdrechion i sicrhau fod yna ddarpariaeth fforddiadwy o dai sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.
Fel yr amlygwyd yn yr Adroddiad Cyfiawnhau, mae gan Eryri ganran uchel o ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymhariaeth a gweddill Cymru, gydag 17.4% o’r stoc tai yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Mae ymchwil hefyd yn dangos fod 65.5% o boblogaeth Eryri ar gyfartaledd, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r canran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
Trwy weithredu’r mesurau newydd yn llwyddiannus, gellir cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Eryri. Ymhellach, mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio yn cynnig cyfle i reoli’r defnydd a wneir o dai newydd i’r dyfodol.
Na, mae’n bwysig nodi na fyddai’r penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol ac ni fyddai disgwyl i berchnogion eiddo gyflwyno cais cynllunio am ddefnydd sydd wedi ei sefydlu yn barod.
Mi fydd y Cyfarwyddyd yn berthnasol i unrhyw newidiadau defnydd yn dilyn cadarnhau a gweithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Parc Cenedlaethol Eryri) o’r 1af o Fehefin 2025 ymlaen.
Fodd bynnag, os ydych yn dymuno derbyn cadarnhad ffurfiol o ddefnydd cyfreithiol eich eiddo, mae posib gwneud hynny drwy gyflwyno cais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon yn rhoi sicrwydd bod y defnydd presennol o’r adeilad yn gyfreithlon ac nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd hwnnw. Nid yw’n orfodol cael Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau lle gallai fod yn ddefnyddiol cadarnhau bod defnydd yr eiddo yn gyfreithlon.
Cynghorir perchnogion ail gartrefi a llety gwyliau i gasglu tystiolaeth neu gadw cofnod sy’n dangos y defnydd o’i eiddo (e.e. tystiolaeth treth neu drosglwyddiadau gosod) pan ddaw Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol ar y 1af o Fehefin 2025. Gall y dystiolaeth yma gael ei ddefnyddio i gefnogi eich achos pe fyddai’r defnydd yn cael ei gwestiynu yn y dyfodol.
Diffinir y math yma o ddefnydd fel defnydd cymysg C3/C6. Wedi gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y 1af o Fehefin 2025 bydd angen caniatad cynlluni er mwyn ymgymryd â’r newid defnydd yma.
Mae trefn bendant y mae disgwyl i Awdurdod Cynllunio Lleol ei ddilyn wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Ar y 6ed o Fawrth 2024 cyflwynwyd adroddiad i Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn amlinellu’r dystiolaeth ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Yn ystod y cyfarfod pleidleisiodd yr aelodau i gyflwyno ‘rhybudd’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 a thrwy hynny gynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus lle bydd cyfle i’r cyhoedd gyflwyno sylwadau.
Ystyriwyd yr holl ymatebion yn fanwl, cyn y trafodwyd y mater gan y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad er mwyn gwneud penderfyniad terfynol. Wedi i’r Pwyllgor Cynllunio a Mynediad bleidleisio o blaid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn weithredol o’r 1af o Fehefin 2025 ymlaen.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Daeth yn weithredol ar y 1af o Fedi 2024.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadarnhau os ydynt yn bwriadu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Conwy (sef yr ardal o Gonwy a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri).
Heb ddod o hyd i ateb i’ch cwestiwn?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau na drafodwyd yn ein Cwestiynau Cyffredin uchod, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio trwy ebostio Polisi.Erthygl4@eryri.llyw.cymru
Ymgynghoriad Cyhoeddus:
Canllaw Cynllunio Atodol Drafft: Rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau (ail gartefi a llety gwyliau tymor byr).
Mae’r ymgynghrioad cyhoeddus yn derbyn sylwadau tan y 9fed o Ebrill 2025, am fanylion gwelwch y dudalen Canllawiau Cynllunio Atodol .