Gellir ystyried unedau glampio fel llety dros dro / symudol hunanarlwyo, sy’n cynnwys podiau, iwrtiau, tipis, pebyll saffari a chytiau bugail. Mae hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer unedau glampio yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar natur yr uned, ei pharhad, a hyd ei defnydd.
Lle ystyrir bod unedau glampio yn strwythurau symudol ac nad ydynt yn gyfystyr â datblygiad gweithredol, gallant elwa o hawliau defnydd dros dro tebyg i’r rhai ar gyfer gwersylla mewn pebyll a charafanau teithiol. Mae’n hanfodol nodi fodd bynnag nad yw’r hawliau hyn yn caniatáu datblygiad gweithredol, h.y. creu canolfannau parhaol, lloriau caled, traciau, pwyntiau cysylltu a strwythurau parhaol fel cyfleusterau toiled/cawod. Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain.
* Bwriedir i’r wybodaeth hon fod yn ganllaw ac ni ddylid ei hystyried yn ddehongliad llawn o’r ddeddfwriaeth. Fe’ch cynghorir i geisio cyngor gan yr Awdurdod drwy’r gwasanaeth cyn-cyflwyno cais cyn gwneud unrhyw waith yr ydych yn ei ystyried a allai fod yn ddatblygiad a ganiateir. *