Os ydych chi’n credu fod penderfyniad am eich cais cynllunio yn annheg, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Gallwch apelio ar yr achlysuron canlynol:
- Mae eich cais am ganiatâd cynllunio wedi’i wrthod, ac rydych yn credu fod y penderfyniad hwnnw yn annheg
- Mae eich cais am ganiatâd cynllunio wedi’i ganiatáu, ond gydag amodau rydych chi’n credu i fod yn annheg
Gallwch hefyd apelio ar adegau pan nad yw adran gynllunio Awdurdod y Parc wedi cyhoeddi penderfyniad ar eich cais o fewn cyfnod penodol. Dylech dderbyn penderfyniad o fewn 8 wythnos ar gyfer ceisiadau cyffredinol, tra na ddylai penderfyniadau ar geisiadau mawr a chymhleth fod yn hwy na 13 wythnos.
Beth i’w ystyried cyn gwneud apêl
Prif reswm yr adran gynllunio dros wrthod caniatâd cynllunio yw nad yw’r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol na chenedlaethol.
Bydd swyddogion cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bob amser yn rhoi rhesymau ichi pam eu bod wedi gwneud penderfyniad penodol ar eich cais. Efallai y gallwch wneud newidiadau i’ch cynlluniau fel eu bod yn cydymffurfio â pholisïau lleol a chenedlaethol.
Sut i wneud apêl
Dylech apelio drwy wefan Llywodraeth Cymru. Yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n gyfrifol am dderbyn ac adolygu apeliadau. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a datblygu ledled Cymru.
Dim ond yr ymgeisydd all apelio, ond gall ddefnyddio asiant cynllunio i gyflwyno’r apêl ar eu rhan.
Rhaid i chi apelio o fewn y cyfnod a nodir ar eich nodyn penderfyniad. Y nodyn penderfyniad yw’r ddogfen a anfonir atoch yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad ar eich cais.
Beth sy’n digwydd yn ystod apêl?
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn adolygu penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Byddant hefyd yn archwilio’r rhesymau pam fod yr ymgeisydd yn credu fod y penderfyniad yn annheg.
Mae’r amser y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ei gymryd i benderfynu ar eich apêl yn dibynnu ar gymhlethdod eich cais. Mae apêl sy’n ymwneud â chais cyffredin deiliad tŷ fel arfer yn cymryd tua 14 wythnos i’w phrosesu.