Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn le arbennig ac mae gan cynllunio rôl bwysig i’w chwarae mewn datblygu ei ddyfodol cynaliadwy. Gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella amgylchedd naturiol ac adeiledig Eryri, tra hefyd yn darparu ar gyfer anghenion cymunedau lleol.
Nid yw bod o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol yn atal datblygiad, yn hyrtach, mae angen edrych ar ddatblygiad mewn modd gwahanol.
Mae datblygu o fewn Parc Cenedlaethol yn gallu bod yn wahanol i ddatblygiad mewn ardaloedd eraill. Mae gan Barciau Cenedlaethol rinweddau arbennig sy’n rhaid eu gwarchod a’u gwella.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn asesu pob datblygiad arfaethedig i sicrhau nad ydynt yn effeithio’n negyddol ar y Parc Cenedlaethol.
Byddant yn ystyried pob math o ffactorau i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio. Gall y rhain gynnwys:
- a yw’r datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol
- maint, lleoliad a dyluniad y datblygiad
- a fydd y datblygiad yn effeithio ar drigolion cyfagos
- effaith y datblygiad ar rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol
- safbwynt y cyhoedd a grwpiau y tu allan i’r Awdurdod, e.e. cynghorau cymuned neu endidau fel Cyfoeth Naturiol Cymru
Tirwedd a harddwch naturiol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn enwog am ei thirwedd anhygoel a’i harddwch naturiol. Mae’r rhain yn rinweddau sydd angen eu gwarchod rhag effeithiau negyddol datblygu.
Bydd Adran Gynllunio Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried yr effaith gaiff unrhyw ddatblygiad ar edrychiad yr ardal amgylchynol.
Cymuned a diwylliant Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal â chymuned a diwylliant fywiog. Fodd bynnag, maent yn gymunedau bregus a gall rhai datblygiadau effeithio ar allu’r cymunedau hyn i ffynnu.
Bydd Adran Gynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn:
- sicrhau nad yw datblygiad yn cael effaith ar allu cymuned i ffynnu
- cefnogi datblygiadau sydd yn cynnig budd i gymuned
Y Gymraeg yn Eryri
Mae 58% o boblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn defnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf. Mae gan rhai o’r trefi o fewn Eryri y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn pwyso a mesur effaith datblygiad ar y Gymraeg ac yn:
- cefnogi datblygiad sy’n cynnal neu’n gwella defnydd o’r iaith Gymraeg
- hybu arwyddion busnesau i fod yn ddwyieithog neu’n uniaith Gymraeg
- hybu defnydd o enwau Cymraeg ar ddatblygiadau newydd megis enwau tai neu strydoedd
Hanes a threftadaeth Eryri
Mae amgylchedd hanesyddol Parc Cenedlaethol Eryri yn un o rinweddau arbennig yr ardal ac yn rhan fawr o dreftadaeth Eryri. Mae ardaloedd ac adeiladau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol o fewn y Parc Cenedlaethol.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn pwyso a mesur yr effaith gaiff ddatblygiad newydd ar dreftadaeth yr ardal gan:
- gefnogi datblygiad sydd yn gwarchod neu’n gwella treftadaeth Eryri e.e. gwaith ar adeiladau rhestredig neu waith o fewn ardal gadwraeth
- gefnogi datblygiad sydd yn defnyddio deunyddiau traddodiadol
Bywyd gwyllt ac ecoleg Eryri
Mae’r Parc Cenedlaethol yn gartref i fywyd gwyllt sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri wella bywyd gwyllt ac ecoleg yr ardal mewn rhyw ffordd.
Byddant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried:
- os yw’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd planhigion neu anifeiliaid e.e. os oes angen symud gwrych fel rhan o’r datblygiad
- os yw’r datblygiad yn hybu bywyd gwyllt y lleoliad datblygu e.e. plannu coed cynhenid fel rhan o’r datblygiad