Cynllun Grantiau: Dadgarboneiddio cynaliadwy ardaloedd cadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri (Adeiladau, Eiddo Cyhoeddus, Cymunedol a Masnachol)

Mae grantiau bellach ar gael i gynorthwyo gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni a / neu uwchraddio thermol eiddo cyhoeddus, cymunedol a masnachol o fewn Ardaloedd Cadwraeth dynodedig y Parc Cenedlaethol, megis Eglwysi / Capeli, Neuaddau Cymunedol, Llyfrgelloedd, Tafarndai Cymunedol, a Siopau Pentref. Gellir ymestyn y diffiniad hwn hefyd i gynnwys adeiladau / eiddo lleol sy’n cefnogi’r gymuned leol lle mae’r adeilad wedi’i nodi yn y Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth drafft fel adeilad o bwysigrwydd lleol i’r Ardal.

Nid yw adeiladau preswyl preifat yn gymwys ar gyfer y grant hwn. Dim ond EIDDO / ADEILADAU CYHOEDDUS, CYMUNEDOL A MASNACHOL o fewn / yn union gyfagos i ffin yr Ardaloedd Cadwraeth dynodedig a’r Gwerthusiadau drafft sy’n gymwys am gymorth grant. Gweinyddir y grantiau gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac fe’u hariennir gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Gweler y ddogfen Telerau ac Amodau am ragor o wybodaeth ynglŷn â chymhwysedd a gofynion ar gyfer cyflwyno cais llwyddiannus.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Ffurflen Datgan Diddordeb yw 12yp ddydd Llun, 6ed Chwefror, 2023,

Yn ddelfrydol trwy e-bost: acaddasc21@eryri.llyw.cymru / cafit4c21@eryri.llyw.cymru

neu, mewn amlen ddienw, wedi’i selio, wedi’i chyfeirio at:

Swyddog Cynllunio Amgylchedd Hanesyddol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol,
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd,
LL48 6LF

gyda’r teitl: Cyfrinachol: Tendr / Cynllun Grant Prosiect Ardaloedd Cadwraeth

Rhaid i bob cyflwyniad gyrraedd Pencadlys APCE erbyn y dyddiad cau.

Yna, bydd y cynnig ‘Datgan Diddordeb’ llwyddiannus yn cael ei wahodd gan yr Awdurdod i gyflwyno cynnig ffurfiol, gan gyflwyno’r cais llawn a’r dogfennau gofynnol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau i gyrraedd pencadlys APCE ar gyfer yr ail gam hwn yw 12pm dydd Gwener 3ydd Mawrth 2023.