Mae Gorchmynion Cadw Coed yn diogelu coed sy’n ddeniadol neu’n gwella golwg ardal.
Os yw coeden wedi’i diogelu gan Orchymyn Cadw Coed, bydd angen caniatâd arnoch i wneud unrhyw un o’r canlynol:
- torri neu ddiwreiddio’r goeden
- tocio canghennau’r goeden
- gwneud unrhyw waith a allai niweidio’r goeden
Gallai gwneud gwaith ar goeden sydd o dan Orchymyn Cadw Coed heb ganiatâd arwain at erlyniad a dirwy o hyd at £20,000.
Sut ydw i’n gwybod a yw coeden wedi’i diogelu dan Orchymyn Cadw Coed?
Gallwch gysylltu ag adran gynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol i wybod os ywcoeden wedi’i diogelu dan Orchymyn Cadw Coed.
Gwneud cais am ganiatâd i weithio ar goeden a warchodir
Cyn i chi wneud gwaith ar goeden sy’n cael ei warchod o dan Orchymyn Cadw Coed, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno ceisiadau i’r Awdurdod, ewch i’r dudalen Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio.
Gweithio ar goeden sy’n cael ei gwarchod sydd yn farw neu’n beryglus
Os yw’r goeden rydych yn bwriadu gweithio arni yn farw neu’n beryglus, ni fydd angen i chi wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith arni. Fodd bynnag, rhaid i chi roi rhybudd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol o leiaf 5 diwrnod cyn gwneud y gwaith.