Cyn i chi lenwi’r ffurflen hon nodwch y canlynol.

 

Ni allwn ymwneud â phryderon sy’n berthnasol i’r rhain:
  • Datblygiadau sy’n niweidio gwerth neu werthiant eiddo

Ni allwn ond mynd ar drywydd achosion o dor-rheolaeth honedig sy’n achosi rhyw fath o niwed i amwynder cyhoeddus, ee i ddiogelwch y cyhoedd, treftadaeth adeiledig, yr amgylchedd, ac ati. Nid yw’r effaith ar werth neu werthiant eiddo yn ystyriaeth gynllunio.

  • Allyriad sŵn, arogleuon, llwch a mathau eraill o lygredd amgylcheddol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon a sbwriel (oni bai ei fod hefyd yn cynnwys tor-rheolaeth amod cynllunio).

Mae’r rhain yn cael eu trin gan y Cyngor Unedol perthnasol (Conwy neu Wynedd) neu yn achos tipio anghyfreithlon gellir eu hadrodd trwy wefan Taclo Tipio Cymru. Dylid hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru am ddigwyddiadau ar  dipio anghyfreithlon ar raddfa fwy.

  • Dulliau o adeiladu adeiladau, strwythurau peryglus a draenio.

Adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor Unedol perthnasol sy’n delio â’r rhain fel arfer.

  • Busnesau’n rhedeg o gartref

Nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer i redeg busnes bach o gartref, ond gall tor-rheolaeth cynllunio fod wedi digwydd pan:

  • Nid yw tŷ bellach yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel preswylfa breifat;
  • Fo’r busnes wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig neu bobl yn galw;
  • Fo’r busnes wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau niweidiol sy’n anarferol mewn ardal breswyl;
  • Fo’r busnes wedi tarfu ar gymdogion ar oriau afresymol neu wedi creu mathau eraill o niwsans megis sŵn neu arogleuon.
  • Llygru cyrsiau dŵr.

Dylid cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â llygredd, unrhyw waith fel cloddio a symud graean a cherrig, neu unrhyw faterion amgylcheddol eraill ar bob cwrs dŵr.

  • Carafanau

Gall carafanau gael eu gosod mewn gardd heb ganiatâd cynllunio (oni bai bod amod cynllunio sy’n atal hyn), cyn belled â’u bod yn cael eu defnyddio at ddibenion sy’n atodol i’r tŷ. Yn yr un modd, gall carafanau gael eu gosod ar dir amaethyddol neu goedwigaeth, er bod cyfyngiadau deiliadaeth a defnydd fel arfer yn berthnasol. Gellir dosbarthu sawl math o adeilad gardd, caban neu loj yn garafán o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

  • Materion Sifil

Anghydfodau ffiniau, cyfamodau neu hawliau eiddo eraill.

 

Proses ymchwilio

Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i bob achos posibl o dor-rheolaeth cynllunio a ddygir i’n sylw, ond sylwer na ellir rhoi blaenoriaeth gyfartal i bob ymholiad. Rydym yn cydnabod bod pryderon yn bwysig iawn i achwynydd, fodd bynnag mae adnoddau gorfodi yn gyfyngedig a bydd rhai materion yn achosi llawer mwy o niwed i’r amgylchedd, i ddiogelwch y cyhoedd neu amwynder preswyl nag eraill ac mae angen eu blaenoriaethu.

Rhaid nodi hefyd na fydd pryderon dienw yn cael eu hymchwilio fel arfer.

 

Cliciwch ‘Nesaf’ i adrodd am dor-rheolaeth cynllunio

 

Nesaf