Mae problemau technegol yn amharu ar ein system Ceisiadau Cynllunio ar-lein. Mi fydd cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn.

Mae’r cyfleuster chwilio ceisiadau cynllunio ar-lein yn eich galluogi i weld ceisiadau cynllunio yn ôl meini prawf amrywiol megis cyfeiriad, dyddiad a math. Yn ogystal, byddwch yn gallu gweld manylion cais cynllunio penodol, gan gynnwys statws y cais ac unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r cais.

Caniatewch ar gyfer amrywiadau sillafu a thalfyriadau os ydych yn gwneud chwiliad testun. Mae’r system yn cael ei diweddaru dros nos bob dydd.

Hysbysiad Pwysig

Mae’r cyfleuster chwilio hwn yn eich galluogi i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Sylwch fod Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sicrhau bod sylwadau ar geisiadau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Mae unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio a gallant effeithio ar y broses benderfynu. Gallwch weld sylwadau yn bersonol yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth.

Drwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ceisiadau cynllunio ar-lein, rydych yn cytuno â’r hysbysiad uchod.

Chwilio Ceisiadau Cynllunio