Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais cyn i chi wneud cais ffurfiol am ganiatâd cynllunio. Gall y gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais eich helpu i:

  • ddarganfod a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio yn y lle cyntaf
  • deall rhai o’r ffactorau a all effeithio ar eich cais cyn i chi ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod

Gall defnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais leihau’r posibilrwydd y bydd ffactorau na rhagwelwyd yn achosi oedi gyda’ch cais.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais

Sut i wneud cais am ganiatâd cynllunio

Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio drwy ddefnyddio gwasanaeth ‘Ceisiadau Cynllunio Cymru’ Llywodraeth Cymru. Mae ffurflenni PDF hefyd ar gael i’w lawrlwytho o’r gwasanaeth hwn.

Cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio (Llywodraeth Cymru)
Lawrlwytho Ffurflenni Cais PDF (Llywodraeth Cymru)

Ffioedd Ceisiadau Cynllunio

Bydd ffi eich cais cynllunio yn dibynnu ar y math o gais yr ydych yn ei gyflwyno.

Ffioedd Ceisiadau Cynllunio

Diogelu Data

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio eich gwybodaeth i brosesu eich cais. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth a ddarperir gennych yn rhan o Gofrestr Gyhoeddus y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei chyhoeddi yn ôl y gyfraith. Yn ogystal, bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi fersiwn wedi’i olygu o’ch cais cynllunio a’r dogfennau atodedig ar ein gwefan. Ni fydd yr Awdurdod yn cyhoeddi llofnodion personol, rhifau ffôn, a chyfeiriadau e-bost ar ein gwefan.