Cyhoeddir Canllawiau Cynllunio Atodol, y cyfeirir atynt yn aml fel CCA, ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn manylu ymhellach ar y polisïau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Datblygu.
Ymgynghoriad Cyhoeddus:
Canllaw Cynllunio Atodol Drafft
Cyhoeddir y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) canlynol ar ffurf drafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus:
CCA: Rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr)
Dylai sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynhoriad hwn ymdrin â chynnwys y CCA drafft yn unig. Nid yw’n gyfle i ail ddiwygio polisïau’r CDLl perthnasol, nac i ail ystyried y penderfyniad o fabwysiadu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.
CCA Drafft: Cyfarwyddyd Erthygl 4
Mae Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei baratoi, a fydd yn cael ei addasu yn dilyn y cyfnod ymgynghori a cyn mabwysiadu’r ddogfen derfynol.
Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Rhoi eich barn
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar Ebrill y 14eg 2025, ac felly nid yw sylwadau’n cael eu derbyn o hyn ymlaen.
Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi ystyried yr ymatebion sydd wedi dod i law, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cymeradwyo’r canllaw’n ffurfiol ac yn eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, gan gynnwys unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt. Wedi hynny, bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
Canllawiau Cynllunio Mabwysedig Diweddaraf
Cafodd yr CCA hwn ei fabwysiadu ar y 29ain Fehefin 2022 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Canllaw Cynllunio Atodol – Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru (PDF, 8MB)
CCA Adroddiad Ymgynghori: Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru (PDF, 746KB)
I weld holl ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol, ymwelwch â’r dudalen Dogfennau.