Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod safonau a pholisïau ar gyfer datblygu o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Awdurdod yn cyfeirio at y cynllun er mwyn llywio eu penderfyniadau cynllunio.
Gweld Datganiad Ysgrifenedig Cynllun Datblygu Lleol Eryri (PDF, 9 MB)
Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhestru ffactorau i’w hystyried wrth werthuso ceisiadau cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio. Mae’r ffactorau’n seiliedig ar y rhinweddau sydd angen eu gwarchod a’u gwella o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- harddwch naturiol y parc
- cymunedau a diwylliant y parc
- bywyd gwyllt y parc
- treftadaeth a hanes y parc
Map Rhyngweithiol Cynllun Datblygu Lleol Eryri
Mae Map Rhyngweithiol Cynllun Datblygu Lleol Eryri yn eich galluogi i weld pa bolisïau sy’n effeithio ar ba ardaloedd o fewn y Parc Cenedlaethol.
Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Eryri (2016 – 2031)
Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu CDLl o leiaf bob pedair blynedd o’r dyddiad mabwysiadu i sicrhau bod CDLlau a’u sylfaen dystiolaeth ategol yn cael eu diweddaru er mwyn darparu sylfaen gadarn ac effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio. Mae’r Adroddiad Adolygiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau a chasgliadau adolygiad yr Awdurdod o Gynllun Mabwysiedig yr Awdurdod sef CDLl Eryri (2016-2031). Mae’r adolygiad wedi cael ei hysbysu gan ymgysylltiad rhanddeiliaid, a gynhaliwyd rhwng 7 Ebrill 2023 a 12 Mai 2023.
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth reolaidd ynglŷn â’r broses o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (gan gynnwys ymgynghoriadau) yna cofrestrwch eich manylion gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Cofrestru ar fas-data cysylltiadau Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2024
Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol fonitro gweithrediad y Cynllun a fabwysiadwyd ganddyn nhw drwy gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol sy’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) yn cael ei ddefnyddio i asesu i ba raddau y mae’r CDLl yn cyflawni ei amcanion.
Canllawiau Cynllunio Atodol
Ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cyhoeddi dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae’r dogfennau hyn yn edrych yn fanylach ar y polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae nifer o ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n edrych ar wahanol faterion datblygu , yn cynnwys:
- Dyluniad cynaliadwy
- Llygredd golau
- Yr iaith Gymraeg
- Tai fforddiadwy
- Llety ymwelwyr
Mae copïau caled o’r Cynllun Datblygu Lleol Eryri 2016-2031 mabwysiedig yn cynnwys Mapiau Argymhellion a Mewnosod ar gael i’w gweld yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod.
- Ardaloedd o Harddwch Naturiol
- Ardaloedd Cadwraeth
- Ardaloedd Awyr Dywyll
Mae’r ardaloedd hyn â safonau a pholisïau penodol er mwyn amddiffyn eu rhinweddau arbennig.