Cefndir

Fel rhan o fesurau i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio (gweler gwybodaeth bellach ar waelod y dudalen hon).

Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio yn golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

Yn dilyn ymgymryd â’r camau hanfodol, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod Cynllunio Lleol i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyflwyno Rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri (sy’n cynnwys rhannau o Wynedd a Chonwy).

Hysbysiad Cyhoeddus: Cyfarwyddyd Erthygl 4

Pwrpas Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir canlynol:

  • Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.

Mae papur wedi cael ei baratoi sydd yn amlygu’r amgylchiadau eithriadol er mwyn cyfiawnhau’r bwriad (gwelwch y ddogfennaeth isod).

Ymhellach mae Asesiad Effaith ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd wedi ei baratoi, yn ogystal ag Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg ar wahân (gwelwch y ddogfennaeth isod). Bydd y rhain yn cael eu haddasu yn ystod y broses o baratoi a derbyn cymeradwyaeth o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Dogfennaeth gefnogol:

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Adroddiad Cyfiawnhau Erthygl 4

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

Asesiad Effaith ar yr iaith Gymraeg

Mae’r holl ddogfennaeth hefyd ar gael i’w darllen fel copïau caled ym Mhencadlys Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth, yn ei Ganolfannau Croeso ym Metws y Coed, Beddgelert ac Aberdyfi, ac mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

Rhoi eich barn

Bydd cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar Ebrill 12fed 2024 ac yn parhau tan 5yp ar Fai 24ain 2024.

Gallwch gyflwyno eich sylwadau trwy Microsoft Forms trwy glicio ar y ddolen isod, dros ebost, neu ar ffurflen bapur.

Bydd yr ymatebion a gyflwynwyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ddadansoddi.

Cliciwch yma i roi eich barn

Beth fydd yn digwydd wedi’r cyfnod ymgynghori?

Wedi dadansoddi’r holl ymatebion bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio a Mynediad yr Awdurdod. Caiff y sylwadau eu hystyried gan yr aelodau a byddant yn gwneud penderfyniad terfynol i gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ai peidio.

Os bydd y Pwyllgor yn cadarnhau’r Cyfarwyddyd, bydd yn weithredol o’r 1af o Fehefin 2025 ymlaen.

Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal ehangach Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cyflwyno Rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Os byddant yn penderfynu cadarnhau Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd, bydd hyn yn cael ei weithredu o’r 1af o Fedi 2024 ymlaen.

Cwestiynau Cyffredin

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn offeryn cynllunio sy’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.

Ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad nid oes angen derbyn caniatâd cynllunio, sef yr hyn a elwir yn ‘hawliau datblygu a ganiateir’.

Serch hynny, trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, mae modd i Awdurdod Cynllunio Lleol fynnu caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau mewn ardal benodol a fyddai fel arall ddim angen derbyn hawl cynllunio ar gyfer y defnydd

Fel rhan o ymdrechion i geisio rheoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Deddfau Cynllunio perthnasol. Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr.

Mae yna ddosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:

Dosbarth C3 – Tai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Prif Gartref),

Dosbarth C5 – Tai annedd a ddefnyddir mewn modd ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Ail Gartref)

Dosbarth C6 –  Llety tymor byr (Llety Gwyliau Tymor Byr).

Ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau defnydd penodol yma heb yr angen am hawl cynllunio. Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, bellach mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Os bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gyflwyno, bydd modd i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad. Byddai hyn yn ei wneud yn ofynnol i berchnogion eiddo preswyl dderbyn caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn newid defnydd eu heiddo i ddefnydd penodol.

Os bydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gadarnhau, ac yr ydych yn berchen ar dŷ preswyl (sydd yn brif gartref) yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Eryri ac eisiau ei drosi i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol, bydd rhaid i chi gael caniatâd cynllunio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer ymgymryd â’r newid defnydd hynny.

Os ydych yn berchen ar dŷ sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel ail gartref, llety gwyliau tymor byr neu ddefnydd cymysg penodol (cyn 1 Mehefin 2025) – ni fydd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn effeithio ar y defnydd presennol.

Mae Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi galw am newidiadau i sicrhau gwell rheolaeth o’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau, boed yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor byr. Ymgyrchwyd ar gyfer y newid hwn fel rhan o ymdrechion i sicrhau fod yna ddarpariaeth fforddiadwy o dai sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.

Fel yr amlygwyd yn yr Adroddiad Cyfiawnhau, mae gan Eryri ganran uchel o ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymhariaeth a gweddill Cymru, gydag 17.4% o’r stoc tai yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.

Mae ymchwil hefyd yn dangos fod 65.5% o boblogaeth Eryri ar gyfartaledd, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r canran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

Trwy weithredu’r mesurau newydd yn llwyddiannus, gellir cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Eryri. Ymhellach, mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio yn cynnig cyfle i reoli’r defnydd a wneir o dai newydd i’r dyfodol.

Na, mae’n bwysig nodi na fyddai’r penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol ac ni fyddai disgwyl i berchnogion eiddo gyflwyno cais cynllunio am ddefnydd sydd wedi ei sefydlu yn barod.

Mi fydd y Cyfarwyddyd yn berthnasol i unrhyw newidiadau defnydd yn dilyn cadarnhau a gweithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Parc Cenedlaethol Eryri).

Fodd bynnag, os ydych yn dymuno derbyn cadarnhad ffurfiol o ddefnydd cyfreithiol eich eiddo, mae posib gwneud hynny drwy gyflwyno cais Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon yn rhoi sicrwydd bod y defnydd presennol o’r adeilad yn gyfreithlon ac nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd hwnnw. Nid yw’n orfodol cael Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon, fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau lle gallai fod yn ddefnyddiol cadarnhau bod defnydd yr eiddo yn gyfreithlon.

Cynghorir perchnogion ail gartrefi a llety gwyliau i gasglu tystiolaeth neu gadw cofnod sy’n dangos y defnydd o’i eiddo (e.e. tystiolaeth treth neu drosglwyddiadau gosod) ar yr adeg y daw Cyfarwyddyd Erthygl 4 i rym (os caiff ei gadarnhau). Gall y dystiolaeth yma gael ei ddefnyddio i gefnogi eich achos pe fyddai’r defnydd yn cael ei gwestiynu yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth cynllunio yn caniatáu ar gyfer defnydd cymysg, golygai hynny y byddai’r defnydd achlysurol o dŷ preswyl (dosbarth C3) ar gyfer defnydd gwyliau (dosbarth C6) yn gallu digwydd heb orfod derbyn hawl cynllunio. Pwysleisir y gall y safbwynt yma newid yn dibynnu ar gynnwys y Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Mae trefn bendant y mae disgwyl i Awdurdod Cynllunio Lleol ei ddilyn wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Ar y 6ed o Fawrth 2024 cyflwynwyd adroddiad i Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn amlinellu’r dystiolaeth ar gyfer cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Yn ystod y cyfarfod pleidleisodd yr aelodau i osod rhybudd Cyfarwyddyd Erthygl 4 a thrwy hynny cynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus lle bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gyflwyno sylwadau.  Wedi dadansoddi’r holl ymatebion bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio a Mynediad yr Awdurdod, caiff y sylwadau eu ystyried gan yr aelodau a byddent yn gwneud penderfyniad terfynol i gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ai peidio.

Os bydd y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yn pleidleisio o blaid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn cael ei weithredu o Fehefin 2025 ymlaen.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod Rhybudd ’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). Am fwy o fanylion ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadarnhau os ydynt yn bwriadu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Conwy (sef yr ardal o Gonwy a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri).

Heb ddod o hyd i ateb i’ch cwestiwn?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau na drafodwyd yn ein Cwestiynau Cyffredin uchod, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio trwy ebostio Polisi.Erthygl4@eryri.llyw.cymru