Ardaloedd Cadwraeth sy’n addas ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain
Mae’r dogfennau canlynol ar ffurf drafft ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn fersiynau terfynol eto gan eu bod yn destun mân newidiadau a newidiadau. Bydd fersiynau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan ar ôl ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cam ymgynghori cyhoeddus.
- Ardaloedd Cadwraeth sy’n Addas ar gyfer yr 21ain Ganrif: Cyflwyniad a Throsolwg Polisi Cynllunio
- Gwerthusiadau a Chynlluniau Rheolaeth Unigol ar gyfer pob Ardal GadwraethGwerthusiadau a Chynlluniau Rheolaeth Unigol ar gyfer pob Ardal Gadwraeth
Ymateb i’r Ymgynghoriad
Dylai sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad hwn ymdrin â chynnwys y ddogfennau hyn yn unig, ac felly nid yw’n gyfle i ddiwygio polisïau perthnasol y CDLl a fabwysiadwyd.
Mae’r ddogfennau hefyd ar gael i’w harchwilio:
- yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth;
Dylid anfon yr holl ymatebion at ACaddasC21@eryri.llyw.cymru neu drwy’r post at:
Y Tîm Polisi (Ardaloedd Cadwraeth),
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Caniateir tan 5yh ar 11eg Tachwedd 2022 i chi ymateb.
Unwaith y bydd yr Awdurdod wedi ystyried yr ymatebion sydd wedi dod i law, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cymeradwyo’r dogfennau’n ffurfiol ac yn eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, gan gynnwys unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt. Wedi hynny, bydd y dogfennau hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau Cynllunio, yn ogystal â bod yn Gynlluniau Gweithredu ar gyfer yr Ardaloedd.
Safonau Iaith yr Awdurdod
Hoffem hefyd wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na’r Saesneg.
- Pa effeithiau fyddai’r prosiect yma yn eich barn chi yn ei gael ar yr iaith Gymraeg ac ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg?
- Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, neu liniaru effeithiau negyddol?
Gwybodaeth Pellach
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r adran polisi cynllunio ar 01766 770 274 neu ebostiwch ACaddasC21@eryri.llyw.cymru