Mae problemau technegol yn amharu ar ein system Ceisiadau Cynllunio ar-lein. Mi fydd cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn.

Mae ceisiadau arwyddocaol, cymhleth neu gynhennus yn aml yn cael eu cyfeirio at Bwyllgor Cynllunio a Mynediad yr Awdurdod. Y pwyllgor sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais.

Fel rhan o’r broses benderfynu, gall y pwyllgor ganiatáu i’r cyhoedd leisio’u barn am geisiadau penodol.

Efallai yr hoffech siarad gerbron y pwyllgor:

  • os oes gennych bryderon am gais cynllunio
  • os rydych yn gwrthwynebu cais cynllunio
  • os rydych am ddadlau o blaid cais cynllunio

Ni allwch annerch y pwyllgor am faterion y tu hwnt i geisiadau cynllunio, megis polisi cynllunio.

Newidiadau oherwydd pandemig COVID-19

Yn sgil pandemig COVID-19, mae Pwyllgorau Cynllunio a Mynediad yn cael eu cynnal yn rhithiol gan ddefnyddio’r platfform gwe-ddarlledu, ‘Zoom’. Mae eich hawl i siarad gerbron y pwyllgor yn aros yr un fath.

Pan fyddwch yn gofyn am gael siarad, bydd swyddog cynllunio yn rhoi manylion i chi o’r hyn y bydd angen i chi ei baratoi ynghyd â gwybodaeth am sut i ymuno â’r cyfarfod rhithiol.

Pwy all annerch y pwyllgor?

Gallwch annerch y pwyllgor os ydych yn:

  • ymgeisydd
  • asiant cynllunio sy’n gweithredu ar ran ymgeisydd
  • rhywun sydd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cais sy’n cael eu drafod yn y Pwyllgor

Ni allwch fynnu cael siarad â’r pwyllgor fel hawl. Mae’r gwahoddiad i siarad ac ymddygiad y cyfarfod yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Sut mae cyflwyno cais i annerch y pwyllgor?

Cyn cyflwyno cais i annerch y pwyllgor, dylech wirio os yw’r cais cynllunio wedi’i gyfeirio at y pwyllgor. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag Adran Gynllunio Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Os yw’r cais wedi’i gyfeirio at y pwyllgor, rhaid ichi gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Awdurdod. Dylai eich cais gynnwys:

  • eich enw
  • manylion cyswllt (gan gynnwys rhif ffôn cyswllt yn ystod y dydd)
  • manylion a chyfeirnod y cais cynllunio

Dylech gyflwyno eich cais ddim hwyrach na 12 (hanner dydd) ar y dydd Gwener cyn bod y pwyllgor yn trafod y cais.

A oes cyfyngiad ar nifer y bobl a all annerch y pwyllgor?

Dim ond un person all siarad o blaid neu yn erbyn cais. Mae gan y Cadeirydd ddisgresiwn i ganiatáu ail siaradwr, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd hyn fel arfer yn digwydd.

Os bydd nifer o bobl yn dymuno siarad, rhaid i chi ddod at eich gilydd, penderfynu ar lefarydd, a hysbysu’r Awdurdod. Mae’n amod o’r cynllun hwn eich bod yn caniatáu i’r Awdurdod rannu eich manylion cyswllt ag eraill sydd wedi gofyn am gael siarad fel y gallwch benderfynu ar lefarydd.

Os na allwch ddod i gytundeb, bydd y person cyntaf a gyflwynodd y cais i annerch y pwyllgor yn cael siarad.

Bydd yr Awdurdod yn eich ffonio i gadarnhau manylion y pwyllgor (e.e. dyddiad, amser, lleoliad a rhif yr eitem ar yr agenda). Nodwch na all yr Awdurdod gymryd unrhyw gyfrifoldeb am fethu â’ch cyrraedd drwy’r manylion cyswllt a roddwyd gennych.

Yr Hawl i Ymateb

Os cafwyd rhybudd gan wrthwynebydd ei fod yn dymuno annerch y Pwyllgor, bydd yr ymgeisydd (neu’r asiant) yn cael arfer ei hawl i ymateb iddo.

Os nad yw’r ymgeisydd eisoes wedi rhoi cais i annerch y Pwyllgor, bydd yr Awdurdod yn cysylltu â’r ymgeisydd (neu’r asiant) i roi gwybod iddo ef/hi am y sefyllfa.

Annerch y Pwyllgor

Oni bai fod Cadeirydd y Pwyllgor yn nodi fel arall, gwrandewir ar y ceisiadau cynllunio yn ôl y drefn y maent yn ymddangos ar y rhaglen a gyhoeddwyd.

Ni all yr Awdurdod ohirio cais oherwydd nad ydych yn bresennol neu’n barod i siarad pan fydd y Cadeirydd yn cyflwyno’r cais.

Bydd y Cadeirydd yn hysbysu’r pwyllgor bod siaradwr ac yn eich gwahodd i siarad. Yn ystod eich annerchiad:

  • bydd gennych uchafswm o 3 munud i annerch y pwyllgor
  • dylech gyflwyno eich barn mewn modd cwrtais gan barchu barn eraill
  • ni chaniateri ichi ddefnyddio taflenni, ffotograffau nac offer cyflwyno

Ar ôl ichi siarad, bydd rhaid ichi adael i’r pwyllgor drafod y mater. Ni chaniateir i chi ymuno â’r drafodaeth oni bai bod Cadeirydd y Pwyllgor yn gofyn cwestiynau ichi i egluro unrhyw bwyntiau a godwyd.

Pa fath o faterion sy’n berthnasol?

Mae’r system gynllunio’n bodoli i reoleiddio datblygiad a defnydd tir er budd y cyhoedd. Mae polisïau cynllunio y cytunwyd arnynt yng Nghynllun Lleol Eryri yn arwain y broses, ynghyd â deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.

Y polisïau cynllunio hyn yw’r ystyriaeth bwysicaf wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio oherwydd eu bod yn nodi’r canllawiau ar sut y dylid datblygu tir.

Mae’r canlynol yn rhestr fer o’r mathau o faterion perthnasol y gall yr Awdurdod eu hystyried:

  • A yw’r cynnig yn cydymffurfio â Chynllun Lleol Eryri yn ogystal â deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol
  • Sut mae’r cynnig yn cydweddu â’r ardal yn nhermau dylunio
  • A fyddai’r cynnig yn tremio dros adeiladau eraill neu’n cael effaith ormesol ddifrifol
  • A fyddai’r cynnig yn peri bod y tai cyfagos yn colli preifatrwydd
  • Effaith y parcio, traffig a diogelwch y ffordd.
  • Sŵn annerbyniol ac amharu ar drigolion y tai cyfagos
  • Perygl llifogydd

Waeth pa mor gryf yr ydych yn ei deimlo, os nad yw’r mater a godwyd yn berthnasol i’r broses gynllunio yna ni fydd yr Awdurdod yn gallu rhoi ystyriaeth iddo wrth wneud penderfyniad. Ni all yr Awdurdod wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar sail gwrthwynebiad pobl yn unig, na’i gymeradwyo oherwydd bod pobl yn ei gefnogi.

Ni all yr Awdurdod roi ystyriaeth i faterion yr ydych yn eu codi sy’n ymwneud â:

  • Chymeriad ac ymddygiad honedig yr ymgeisydd
  • Colli golygfeydd
  • Gostyngiad yng ngwerth yr eiddo
  • Cyfamodau sy’n effeithio ar yr eiddo
  • Perchenogaeth tir neu anghydfod am derfynau
  • Gwrthwynebiadau ar sail masnach gan ddarpar gystadleuwyr

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud fy nghyflwyniad i’r pwyllgor?

Ar ôl i’r pwyllgor glywed gan yr holl siaradwyr, byddant yn trafod y cais. Gall y pwyllgor benderfynu cymeradwyo neu wrthod y cais ar y diwrnod. Fel arall, gall y pwyllgor ohirio’r penderfyniad i drefnu ymweliad safle neu gael rhagor o wybodaeth. Ni chewch annerch y pwyllgor eto mewn cyfarfod yn y dyfodol ar achlysuron o’r fath.

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad?

Ceir rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio ar y dudalen Apelio yn erbyn Penderfyniad Cynllunio.

Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio