Cyflwyno cais cynllunio sydd a wnelo â Rhywogaethau a Warchodir
Rhywogaethau a Warchodir
Mae rhywogaethau a warchodir yn cael eu diogelu o dan Ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac Ewrop drwy Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygiedig) 2012. Mae arweiniad am Rywogaethau a Warchodir mewn perthynas â chynllunio wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru ym Mholisi Cynllunio Cymru (Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio – Medi 2009) ac mae rhestr lawn o’r rhywogaethau a warchodir a’r rhai a ddarganfyddir amlaf yn Eryri wedi’i chynnwys yn y Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar Gadwraeth Natur a Bioamrywiaeth. Gellir dod o hyd i ystod o rywogaethau a warchodir yn Eryri, er mai’r rhai a gysylltir amlaf â datblygiadau yw ystlumod, tylluanod gwynion, adar sy’n nythu, moch daear, dyfrgwn a phathewod.
Mae’n drosedd caethiwo / dal, niweidio neu ladd Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop neu fynd ati’n fwriadol i ddifrodi neu ddinistrio lleoliad magu / bridio neu fan gorffwys (clwydo) anifail o’r fath, neu rwystro mynediad mewn ffordd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar ei allu i fyw, neu a fyddai’n effeithio ar ddosraniad neu niferoedd y rhywogaeth.
Rhaid i’r Awdurdod roi ystyriaeth i bresenoldeb, neu’r potensial ar gyfer presenoldeb, rhywogaethau a warchodir pan fydd yn ystyried cais cynllunio. Bydd y nodyn hwn yn helpu ymgeiswyr wrth gyflwyno cais cynllunio neu mewn unrhyw drafodaethau gyda’r Awdurdod cyn ymgeisio. Cliciwch ar y dolenni isod i weld y canllawiau a’r ffurflen asesu:
Cyfarwyddyd ar Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol (PDF)
Mae gweddill y nodyn hwn wedi’i gyfeirio at ymdrin ag ystlumod ond bydd yr egwyddorion dan sylw a’r angen i gynnal gwiriad cychwynnol ac Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol yn berthnasol i bob rhywogaeth a warchodir.
Ble mae ystlumod yn debygol o fyw neu aeafgysgu?
Mae’n syndod faint o adeiladau, adeileddau, ceuffyrdd pyllau a choed yn Eryri sy’n darparu mannau clwydo a gaeafgysgu ar gyfer ystlumod, a gall nifer o leoedd ar dir neu nodweddion llinellol fel gwrychoedd, cyrsiau dŵr ar ymylon coedlannau, ymylon ffyrdd ac ati ddarparu lleoedd bwydo ar gyfer ystlumod yn ogystal â llwybrau hedfan. Gall datblygiadau a gwaith o fath arall ar adeiladau, megis gwaith atgyweirio ail-doi ac ailwampio, gael effaith andwyol ar ystlumod a’u mannau gorffwys.
Sut y gellir canfod a oes ystlumod yn bresennol?
Mae rhai ystlumod yn fach iawn ac fe allant fod o’r golwg o fewn strwythur adeilad heb i chi wybod. Gellir dod o hyd iddynt o dan lechi, bondoeau a bargodion, mewn ceudodau waliau neu fe allant ddefnyddio talcenni tai, silffoedd ffenestri, estyll tywydd, portshys neu seleri. Heblaw eich bod yn gweld ystlumod, yr arwyddion mwyaf amlwg eu bod yn bresennol yw gweld eu baw, sy’n debyg i faw llygod, ond mae’n chwalu’n hawdd ac yn cynnwys gweddillion pryfetach. Fodd bynnag, bydd baw yn gwasgaru dros amser gan olygu y gall arwyddion o bresenoldeb ystlumod ymddangos yn absennol o’r safle yn gyfan gwbl. Felly, rhaid asesu potensial adeilad neu goeden i gynnal ystlumod er mwyn penderfynu a oes angen cynnal arolwg pellach.
Cyn dechrau unrhyw waith neu gyflwyno cais cynllunio, dylech ymchwilio i weld a yw eich datblygiad yn debygol o effeithio ar ystlumod os ydynt yn bresennol. I’ch helpu i benderfynu a oes angen Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol, mae’r Awdurdod wedi paratoi rhestr wirio. Dylech ystyried eich cynigion yn erbyn y rhestr wirio hon er mwyn helpu i benderfynu a yw ystlumod neu rywogaethau eraill a warchodir yn debygol o fod yn bresennol.
Beth fydd yn digwydd os tybir bod ystlumod yn bresennol?
Os oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod ystlumod yn bresennol, yna bydd angen i chi gomisiynu a chyflwyno Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol gan syrfëwr cymwys trwyddedig. Unwaith y’i cwblheir, dylid ei gyflwyno gyda’ch cais cynllunio. Cyn belled â’ch bod wedi cyflwyno’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol, a bod gweddill yr wybodaeth yn ddigonol, bydd yn bosibl cofrestru’r cais heb fod angen cyflawni arolwg mwy manwl ar yr adeg hon. Gall yr Awdurdod ddarparu rhestr o syrfewyr cymwys sy’n gallu ymgymryd â’r gwaith o gyflawni’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol.
A fydd angen i mi ymgymryd â rhagor o astudiaethau?
Pan ddarganfyddir tystiolaeth ynghylch presenoldeb ystlumod, neu pan fo’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol yn dangos bod yna debygolrwydd rhesymol fod ystlumod (neu rywogaethau eraill a warchodir) yn defnyddio’r adeilad / adeiledd / coeden, yna bydd gofyniad i ymgymryd ag arolwg mwy cynhwysfawr.
Rhaid hefyd i syrfëwr cymwys ymgymryd â’r arolwg cynhwysfawr hwn a bydd rhaid iddo ef / hi ganfod pa fath o ystlumod sy’n bresennol, y nifer debygol ohonynt , sut mae’r ystlumod yn defnyddio’r adeilad / adeiledd / coeden ac ati, a sut y gall yr ystlumod gael eu cynnwys o fewn y cynigion datblygu. Bydd angen datganiad dull i gyd-fynd â’r adroddiad arolwg ystlumod. Os oes angen arolwg cynhwysfawr, ni fydd yr Awdurdod yn rhoi caniatâd cynllunio, ar yr amod bod yr holl faterion eraill yn foddhaol, nes y cyflwynir hwy oll ac y cytunir ar y mesurau lliniaru. Am ragor o wybodaeth am y Canllawiau Adrodd ar yr Arolwg, cliciwch ar y dolenni isod:
A all fy natblygiad fynd yn ei flaen os oes ystlumod yn bresennol?
Ar yr amod bod yr holl bethau uchod wedi’u gwneud a’r mesurau lliniaru wedi’u pennu yn y Datganiad Dull sy’n cyd-fynd â’r Adroddiad Arolygu Ystlumod, yna gall yr Awdurdod roi caniatâd cynllunio, ar yr amod bod yr holl faterion eraill yn foddhaol. Fodd bynnag, bydd angen sicrhau trwydded datblygu, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn amharu ar ystlumod cyn i’r datblygiad fynd yn ei flaen. Bydd hefyd angen yr wybodaeth a ddarparir yn y Datganiad Dull yn adroddiad yr arolwg ystlumod ar gyfer y drwydded datblygu, a bydd sicrhau bod hynny ar gael yn cyflymu unrhyw gais am drwydded. Bydd angen trwydded cyn i’r datblygiad ddechrau, ond bydd fel arfer yn cael ei chaniatáu os darperir mesurau lliniaru cadarn
Further Information
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â rhywogaethau a warchodir neu ynghylch cynnal asesiadau ac arolygon, cysylltwch â Natalie Parry, Ecolegydd Cynllunio’r Parc Cenedlaethol.
Natalie Parry
Snowdonia National Park Authority
National Park Offices
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Telephone: 01766 772 214
Email: cynllunio@eryri.llyw.cyrmu
Dogfennau sy’n berthnasol i ecoleg a bioamrywiaeth