• Cymraeg
  • English
Parc Cenedlaethol Eryri Awdurdod y Parc
Snowdonia National Park Logo Snowdonia National Park Logo
Caniatâd Cynllunio
Caniatâd Cynllunio
Gwybodaeth ynglŷn â chaniatâd cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Holl bynciau caniatâd cynllunio
A oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais
Cynllunio a Datblygu yn Eryri
Cais am Caniatâd Cynllunio
Apelio penderfyniad cynllunio
Mynegi Pryder
Cyngor ac Arweiniad
Cyngor ac Arweiniad
Cyngor ac arweiniad ar faterion cynllunio a datblygu ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Holl bynciau cyngor ac arweiniad
Bioamrywiaeth
Adeiladau Rhestredig
Ardaloedd Cadwraeth
Rheoliadau Adeiladu
Tai Fforddiadwy
Dogfennau
Y Pwyllgor
Y Pwyllgor
Gwybodaeth am Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad
Rhaglenni Pwyllgor
Ymweliadau Safle
Siarad yn y Pwyllgor
Polisi
Caniatâd Cynllunio Cyngor ac Arweiniad Dogfennau Y Pwyllgor Polisi
Language
  • Cymraeg
  • English
Parc Cenedlaethol Eryri Awdurdod y Parc
Caniatâd Cynllunio
Gwybodaeth ynglŷn â chaniatâd cynllunio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Holl bynciau caniatâd cynllunio
A oes angen caniatâd cynllunio arnaf? Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio a Datblygu yn Eryri Cais am Caniatâd Cynllunio Apelio penderfyniad cynllunio Mynegi Pryder
Cyngor ac Arweiniad
Cyngor ac arweiniad ar faterion cynllunio a datblygu ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Holl bynciau cyngor ac arweiniad
Bioamrywiaeth Adeiladau Rhestredig Ardaloedd Cadwraeth Rheoliadau Adeiladu Tai Fforddiadwy
Y Pwyllgor
Gwybodaeth am Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Rhaglenni Pwyllgor Ymweliadau Safle Siarad yn y Pwyllgor
results for result for
CY Sorry - no results were found for
CY Try one of our suggested links below:

Arweiniad ar Ddatblygu a Rhywogaethau a Warchodir

Hafan
Cyngor ac Arweiniad
Bioamrywiaeth
Arweiniad ar Ddatblygu a Rhywogaethau a Warchodir
Ni allwn bellach gynnig cyngor ynghylch yr angen am Asesiad Rhagarweiniol o Rywogaethau a Warchodir. Ceisiwch gyngor ymgynghorydd ecolegol.

Cyflwyno cais cynllunio sydd a wnelo â Rhywogaethau a Warchodir

Rhywogaethau a Warchodir

Mae rhywogaethau a warchodir yn cael eu diogelu o dan Ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac Ewrop drwy Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygiedig) 2012. Mae arweiniad am Rywogaethau a Warchodir mewn perthynas â chynllunio wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru ym Mholisi Cynllunio Cymru (Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio – Medi 2009) ac mae rhestr lawn o’r rhywogaethau a warchodir a’r rhai a ddarganfyddir amlaf yn Eryri wedi’i chynnwys yn y Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar Gadwraeth Natur a Bioamrywiaeth. Gellir dod o hyd i ystod o rywogaethau a warchodir yn Eryri, er mai’r rhai a gysylltir amlaf â datblygiadau yw ystlumod, tylluanod gwynion, adar sy’n nythu, moch daear, dyfrgwn a phathewod.

Mae’n drosedd caethiwo / dal, niweidio neu ladd Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop neu fynd ati’n fwriadol i ddifrodi neu ddinistrio lleoliad magu / bridio neu fan gorffwys (clwydo) anifail o’r fath, neu rwystro mynediad mewn ffordd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar ei allu i fyw, neu a fyddai’n effeithio ar ddosraniad neu niferoedd y rhywogaeth.

Rhaid i’r Awdurdod roi ystyriaeth i bresenoldeb, neu’r potensial ar gyfer presenoldeb, rhywogaethau a warchodir pan fydd yn ystyried cais cynllunio. Bydd y nodyn hwn yn helpu ymgeiswyr wrth gyflwyno cais cynllunio neu mewn unrhyw drafodaethau gyda’r Awdurdod cyn ymgeisio. Cliciwch ar y dolenni isod i weld y canllawiau a’r ffurflen asesu:

Guidance on Preliminary Protected Species Assessment (PDF)

Preliminary Protected Species Assessment Form (PDF)

Mae gweddill y nodyn hwn wedi’i gyfeirio at ymdrin ag ystlumod ond bydd yr egwyddorion dan sylw a’r angen i gynnal gwiriad cychwynnol ac Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol yn berthnasol i bob rhywogaeth a warchodir.

Ble mae ystlumod yn debygol o fyw neu aeafgysgu?

Mae’n syndod faint o adeiladau, adeileddau, ceuffyrdd pyllau a choed yn Eryri sy’n darparu mannau clwydo a gaeafgysgu ar gyfer ystlumod, a gall nifer o leoedd ar dir neu nodweddion llinellol fel gwrychoedd, cyrsiau dŵr ar ymylon coedlannau, ymylon ffyrdd ac ati ddarparu lleoedd bwydo ar gyfer ystlumod yn ogystal â llwybrau hedfan. Gall datblygiadau a gwaith o fath arall ar adeiladau, megis gwaith atgyweirio ail-doi ac ailwampio, gael effaith andwyol ar ystlumod a’u mannau gorffwys.

Sut y gellir canfod a oes ystlumod yn bresennol?

Mae rhai ystlumod yn fach iawn ac fe allant fod o’r golwg o fewn strwythur adeilad heb i chi wybod. Gellir dod o hyd iddynt o dan lechi, bondoeau a bargodion, mewn ceudodau waliau neu fe allant ddefnyddio talcenni tai, silffoedd ffenestri, estyll tywydd, portshys neu seleri. Heblaw eich bod yn gweld ystlumod, yr arwyddion mwyaf amlwg eu bod yn bresennol yw gweld eu baw, sy’n debyg i faw llygod, ond mae’n chwalu’n hawdd ac yn cynnwys gweddillion pryfetach. Fodd bynnag, bydd baw yn gwasgaru dros amser gan olygu y gall arwyddion o bresenoldeb ystlumod ymddangos yn absennol o’r safle yn gyfan gwbl. Felly, rhaid asesu potensial adeilad neu goeden i gynnal ystlumod er mwyn penderfynu a oes angen cynnal arolwg pellach.

Cyn dechrau unrhyw waith neu gyflwyno cais cynllunio, dylech ymchwilio i weld a yw eich datblygiad yn debygol o effeithio ar ystlumod os ydynt yn bresennol. I’ch helpu i benderfynu a oes angen Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol, mae’r Awdurdod wedi paratoi rhestr wirio. Dylech ystyried eich cynigion yn erbyn y rhestr wirio hon er mwyn helpu i benderfynu a yw ystlumod neu rywogaethau eraill a warchodir yn debygol o fod yn bresennol.

Presence of Bats Checklist (PDF)

Beth fydd yn digwydd os tybir bod ystlumod yn bresennol?

Os oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod ystlumod yn bresennol, yna bydd angen i chi gomisiynu a chyflwyno Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol gan syrfëwr cymwys trwyddedig. Unwaith y’i cwblheir, dylid ei gyflwyno gyda’ch cais cynllunio. Cyn belled â’ch bod wedi cyflwyno’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol, a bod gweddill yr wybodaeth yn ddigonol, bydd yn bosibl cofrestru’r cais heb fod angen cyflawni arolwg mwy manwl ar yr adeg hon. Gall yr Awdurdod ddarparu rhestr o syrfewyr cymwys sy’n gallu ymgymryd â’r gwaith o gyflawni’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol.

List of Qualified Surveyors (PDF)

A fydd angen i mi ymgymryd â rhagor o astudiaethau?

Pan ddarganfyddir tystiolaeth ynghylch presenoldeb ystlumod, neu pan fo’r Asesiad Rhywogaethau a Warchodir Rhagarweiniol yn dangos bod yna debygolrwydd rhesymol fod ystlumod (neu rywogaethau eraill a warchodir) yn defnyddio’r adeilad / adeiledd / coeden, yna bydd gofyniad i ymgymryd ag arolwg mwy cynhwysfawr.

Rhaid hefyd i syrfëwr cymwys ymgymryd â’r arolwg cynhwysfawr hwn a bydd rhaid iddo ef / hi ganfod pa fath o ystlumod sy’n bresennol, y nifer debygol ohonynt , sut mae’r ystlumod yn defnyddio’r adeilad / adeiledd / coeden ac ati, a sut y gall yr ystlumod gael eu cynnwys o fewn y cynigion datblygu. Bydd angen datganiad dull i gyd-fynd â’r adroddiad arolwg ystlumod. Os oes angen arolwg cynhwysfawr, ni fydd yr Awdurdod yn rhoi caniatâd cynllunio, ar yr amod bod yr holl faterion eraill yn foddhaol, nes y cyflwynir hwy oll ac y cytunir ar y mesurau lliniaru. Am ragor o wybodaeth am y Canllawiau Adrodd ar yr Arolwg, cliciwch ar y dolenni isod:

Guidelines for Ecology Reports (PDF)

Ecology Reports Declaration (PDF)

A all fy natblygiad fynd yn ei flaen os oes ystlumod yn bresennol?

Ar yr amod bod yr holl bethau uchod wedi’u gwneud a’r mesurau lliniaru wedi’u pennu yn y Datganiad Dull sy’n cyd-fynd â’r Adroddiad Arolygu Ystlumod, yna gall yr Awdurdod roi caniatâd cynllunio, ar yr amod bod yr holl faterion eraill yn foddhaol. Fodd bynnag, bydd angen sicrhau trwydded datblygu, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn amharu ar ystlumod cyn i’r datblygiad fynd yn ei flaen. Bydd hefyd angen yr wybodaeth a ddarparir yn y Datganiad Dull yn adroddiad yr arolwg ystlumod ar gyfer y drwydded datblygu, a bydd sicrhau bod hynny ar gael yn cyflymu unrhyw gais am drwydded. Bydd angen trwydded cyn i’r datblygiad ddechrau, ond bydd fel arfer yn cael ei chaniatáu os darperir mesurau lliniaru cadarn

Trwyddedau Ystlumod (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Further Information

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â rhywogaethau a warchodir neu ynghylch cynnal asesiadau ac arolygon, cysylltwch â Natalie Parry, Ecolegydd Cynllunio’r Parc Cenedlaethol.

Natalie Parry
Snowdonia National Park Authority
National Park Offices
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Telephone: 01766 772 214
Email: cynllunio@eryri.llyw.cyrmu

Dogfennau Ecoleg a Bioamrywiaeth

Dogfennau sy’n berthnasol i ecoleg a bioamrywiaeth

Gweld holl ddogfennau Bioamrywaieth
SNP logo
Caniatâd Cynllunio
A oes angen Caniatâd Cynllunio arnaf? Gwasnaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais Cais am Ganiatâd Cynllunio
Y Pwyllgor
Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Rhaglenni Pwyllgor Siarad yn y Pwyllgor
Dolenni Cyflym
Parc Cenedlaethol Eryri Yr Wyddfa
Cysylltu
E-bost: parc@eryri.llyw.cymru Ffôn: 01766 770274 Gweld holl wybodaeth cysylltu
Dilynwch ni
© 2023 Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Datganiad Hygyrchedd
Telerau ac Amodau
Datganiad Preifatrwydd
Dyluniwyd ac Adeiladwyd gan
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol i chi trwy gofio'ch dewisiadau ac ailymweliadau. Trwy glicio “Derbyn Pob Cwci”, rydych chi'n cydsynio i'r HOLL gwcis gael eu defnyddio. Fodd bynnag, gallwch ymweld â "Gosodiadau Cwcis" i reoli eich caniatâd.
Gosodiadau CwciDerbyn Pob Cwci
Manage consent

Trosolwg Preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad wrth i chi lywio drwy'r wefan. O'r rhain, mae'r cwcis sy'n cael eu categoreiddio fel rhai angenrheidiol yn cael eu storio ar eich porwr gan eu bod yn hanfodol ar gyfer gweithrediad swyddogaethau sylfaenol y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy'n ein helpu i ddadansoddi a deall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Dim ond gyda'ch caniatâd chi y bydd y cwcis hyn yn cael eu storio yn eich porwr. Mae gennych hefyd yr opsiwn i optio allan o'r cwcis hyn. Ond gallai optio allan o rai o'r cwcis hyn effeithio ar eich profiad pori.
Angenrheidiol
Wedi'i galluogi drwy'r amser
Mae cwcis angenrheidiol yn gwbl hanfodol er mwyn i'r wefan weithio'n iawn. Mae'r cwcis hyn yn sicrhau swyddogaethau sylfaenol a nodweddion diogelwch y wefan, yn anhysbys.
CwciHydDisgrifiad
cookielawinfo-checkbox-analytics11 misMae'r cwci hwn wedi'i osod gan ategyn GDPR Cookie Consent. Defnyddir y cwci i storio caniatâd y defnyddiwr ar gyfer y cwcis yn y categori "Dadansoddi".
cookielawinfo-checkbox-functional11 misMae'r cwci yn cael ei osod gan GDPR cookie consent i gofnodi caniatâd y defnyddiwr ar gyfer y cwcis yn y categori "Swyddogaethol".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 misMae'r cwci hwn wedi'i osod gan ategyn GDPR Cookie Consent. Defnyddir y cwcis i storio caniatâd defnyddiwr ar gyfer y cwcis yn y categori "Angenrheidiol".
cookielawinfo-checkbox-others11 misMae'r cwci hwn wedi'i osod gan ategyn GDPR Cookie Consent. Defnyddir y cwci i storio caniatâd y defnyddiwr ar gyfer y cwcis yn y categori "Eraill".
cookielawinfo-checkbox-performance11 misMae'r cwci hwn wedi'i osod gan ategyn GDPR Cookie Consent. Defnyddir y cwci i storio caniatâd y defnyddiwr ar gyfer y cwcis yn y categori "Perfformiad".
viewed_cookie_policy11 misMae'r cwci yn cael ei osod gan yr ategyn GDPR Cookie Consent ac fe'i defnyddir i storio a yw'r defnyddiwr wedi cydsynio i ddefnyddio cwcis ai peidio. Nid yw'n storio unrhyw ddata personol.
wp-wpml_current_language-Yn arbed ym mha iaith rydych chi'n edrych ar y wefan.
Swyddogaethol
Mae cwcis swyddogaethol yn helpu i gyflawni rhai swyddogaethau megis rhannu cynnwys y wefan ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, casglu adborth, a nodweddion trydydd parti eraill.
Perfformiad
Defnyddir cwcis perfformiad i ddeall a dadansoddi mynegeion perfformiad allweddol y wefan sy'n helpu i ddarparu profiad defnyddiwr gwell i'r ymwelwyr.
Dadansoddi
Defnyddir cwcis dadansoddol i ddeall sut mae ymwelwyr yn rhyngweithio â'r wefan. Mae'r cwcis hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth am fetrigau nifer yr ymwelwyr, cyfradd bownsio, ffynhonnell traffig, ac ati.
CwciHydDisgrifiad
_ga2 flyneddCwci GoogleAnalytics yw hwn a ddefnyddir i ddarganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Mae’r cwci yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r safle, a ydynt wedi ymweld o’r blaen a’r tudalennau y maent yn ymweld â nhw.
Hysbysebu
Defnyddir cwcis hysbysebu i roi hysbysebion ac ymgyrchoedd marchnata perthnasol i ymwelwyr. Mae'r cwcis hyn yn olrhain ymwelwyr ar draws gwefannau ac yn casglu gwybodaeth i ddarparu hysbysebion wedi'u teilwra.
Eraill
Cwcis eraill heb eu categoreiddio yw'r rhai sy'n cael eu dadansoddi ac nad ydynt wedi'u dosbarthu i gategori hyd yn hyn.
CADW A CHYTUNO
This site is registered on wpml.org as a development site.