Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru (PCC) i fynd i’r afael â’r argyfwng natur drwy adolygu Pennod 6 ‘Creu a Lles Unigryw a Naturiol’. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar bob cais cynllunio. Mae’r prif newidiadau polisi yn ymwneud â:
- Seilwaith Gwyrdd
- Budd net ar gyfer bioamrywiaeth a’r Dull Gweithredu Doeth
- Gwarchodaeth ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
- Coed a Choetiroedd
Gellir gweld Rhifyn 12, Chwefror 2024 Polisi Cynllunio Cymru (PCC) ar wefan Llywodraeth Cymru – Polisi Cynllunio Cymru – Rhifyn 12 (llyw.cymru).
Un newid allweddol yw’r gofyniad i gyflwyno pob cais cynllunio gyda ‘Datganiad Seilwaith Gwyrdd’ (paragraff 6.2.12 o GCC) a ddylai ddisgrifio sut mae seilwaith gwyrdd wedi’i ymgorffori yn y cynnig.
Rhaid i’r holl ddatblygiadau sicrhau budd net ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau o’r cyflwr sylfaenol (sydd gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig). Mae’n ofynnol chwilio am welliant a sicrhau gwelliannau trwy ddyluniad a gweithrediad y datblygiad, hyd yn oed pe byddai’r datblygiad sy’n deillio o hyn yn cynnal gwerth bioamrywiaeth y safle.
Ni ddylai ymgeiswyr wneud unrhyw waith clirio safle rhagbrofol cyn cyflwyno cais cynllunio oherwydd fe all hyn ei gwneud hi’n anoddach i gynnig /fwriad datblygu sicrhau budd net i fioamrywiaeth.
Pa fanylion sydd eu hangen yn y Datganiad Seilwaith Gwyrdd (DSG)?
Dylai’r datganiad fod gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig, er enghraifft ar ddeiliaid tai a mân ddatblygiadau byddai hyn fel arfer ar ffurf disgrifiad byr.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi darparu rhagor o arweiniad a ffurflen y gellir ei defnyddio ar gyfer datblygiadau ar raddfa lai a datblygiadau deiliaid tai i gynorthwyo i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen:
Lawrlwytho Nodyn Cyfarwyddyd (PDF)
Dylai’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd ddisgrifio pa effaith a allai ddigwydd i fioamrywiaeth, cynefinoedd a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a nodwyd sydd eisoes ar y safle o ganlyniad i ddatblygiad arfaethedig a rhaid iddo ddangos sut mae’r ‘Dull gweithredu Doeth‘ wedi’i gymhwyso. Eglurir mwy o fanylion am hyn yn y PCC adran 6.4.11 – 6.4.16.
Mae PCC yn crynhoi’r dull gweithredu doeth yn y ddolen isod
Crynodeb o’r dull gweithredu doeth
(Ffigur 12 o PCC -https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2024-02/planning-policy-wales-edition-12_1.pdf)
Pryd ddylai’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd gael ei ysgrifennu?
Dylid creu Datganiad Seilwaith Gwyrdd yn ystod camau cynnar datblygiad i nodi’r egwyddorion a fydd yn llywio’r cynllun ar draws y safle cyfan, gan gynnwys tirlunio, ecoleg ac unrhyw liniaru gofynnol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn defnyddio’r gwasanaeth Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio ac yn argymell bod Datganiad Seilwaith Gwyrdd drafft wedi’i gynnwys (yn enwedig gyda datblygiadau mwy) wrth geisio cyngor cyn cyflwyno cais.
Nid yw’n briodol i’r Awdurdod geisio’r wybodaeth hon yn ‘ôl-weithredol’ drwy amod, felly mae’n rhaid ei darparu fel rhan o’r broses o wneud cais cynllunio.
Enghreifftiau o sut i ymgorffori Seilwaith Gwyrdd
Mae sawl ffordd o ymgorffori Seilwaith Gwyrdd a Gwella Bioamrywiaeth i sicrhau budd net i safle ac mae’n bwysig ystyried hyn yng nghamau cynnar y datblygiad. Er enghraifft:
Mesurau dylunio unigol –
- tirlunio (e.e. plannu blodau gwyllt a pheillion, plannu gwrychoedd, plannu coed)
- ymylon glaswellt
- draenio cynaliadwy a gerddi
- bocsys adar
- blychau ystlumod / pwyntiau mynediad
- pyllau
- briciau gwenyn/pryfed
- blwch draenogod / mynediad
Mesurau tirwedd ehangach –
- creu dolydd neu goetiroedd rhywogaeth gyfoethog
- wella cysylltiadau rhwng ardaloedd o werth bioamrywiaeth
Dylai’r mesurau fod yn benodol i’r safle i ychwanegu gwelliannau ystyrlon i’r safle.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am wella bioamrywiaeth yn y ddolen isod