PWYSIG: At sylw Asiantwyr Cynllunio. Llythyr Gan Lywodraeth Cymru (gweler dolen isod):

COP15, archwiliad manwl i fioamrywiaeth, dyletswydd adran 6 a’r system gynllunio

Dylai unrhyw ddatblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri  negyddu ei effaith ar fioamrywiaeth leol a chymryd camau gweithredol i’w wella.

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau gwella bioamrywiaeth y dylech eu cymryd fel rhan o’u Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

Mewn rhai achosion, bydd angen i chi gynnwys arolwg neu adroddiad wrth gyflwyno’ch cais yn ffurfiol. Dylai syrfëwr ecolegol lleol gynnal yr arolygon neu’r adroddiadau hyn.

Dylai unrhyw gamau gwella bioamrywiaeth a gymerwch gael eu nodi ar eich cynlluniau a’ch lluniadau.

Gellir hefyd darparu manylion am wella bioamrywiaeth fel rhan o Ddatganiad Seilwaith Gwyrdd. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y ddolen isod

Seilwaith Gwyrdd

 

Enghreifftiau o wella bioamrywiaeth

Gall enghreifftiau o wella bioamrywiaeth gynnwys:

  • Gosod blwch adar sy’n benodol i’r rhywogaeth ar y safle datblygu, e.e. gwenoliaid, gwenoliaid duon, drudwy
  • Plannu coeden frodorol fel criafolen a fyddai’n cynhyrchu aeron i adar yr ardal
  • Gallai datblygiadau mwy arwyddocaol edrych ar adfer dolydd blodau gwyllt ar y safle

Dylai’r camau a gymerwch i wella bioamrywiaeth o fewn eich datblygiad adlewyrchu graddfa’r datblygiad ei hun. Er enghraifft, bydd adeiladu tŷ o fewn y Parc Cenedlaethol yn cael effaith fwy arwyddocaol ar fioamrywiaeth nag adeiladu porth ar gartref presennol. Dylai’r gwelliant geisio negyddu effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth y safle.

Yn ogystal, mae’r camau y dylech eu cymryd i wella bioamrywiaeth o fewn eich datblygiad yn aml yn dibynnu ar sawl ffactor megis lleoliad, math o adeilad a graddfa. Anaml y ceir un dull sy’n addas i bawb o ran gwella bioamrywiaeth. Mae’r camau y dylech eu cymryd yn aml yn unigryw i’ch datblygiad.

Asesu gwella bioamrywiaeth

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau y dylech eu cymryd ynghylch bioamrywiaeth fel rhan o’u Gwasanaeth Cyngor cyn Cyflwyno Cais. Er enghraifft, gall y gwasanaeth argymell gwelliannau bioamrywiaeth penodol ac a oes angen i chi gynnal arolwg neu adroddiad ecolegol ai peidio.

Mae swyddogion cynllunio ac ecolegwyr yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn defnyddio offer amrywiol i bennu effaith bosib datblygiad ar fioamrywiaeth leol.

Un o’r arfau hyn yw ‘Cofnod’, map rhyngweithiol sy’n dangos rhywogaethau penodol i ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.

Gwefan Cofnod