Cynllun Datblygu Lleol Eryri Newydd (CDLl3)

Mae Awdurdod Parc Cendlaethol Eryri wedi dechrau’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Eryri newydd. Mae’r CDLl yn nodi beth y gellir ei adeiladu a ble. Mae’n mynd i’r afael â’r angen a’r lleoliadau am dai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, manwerthu, mannau agored a defnyddiau tir eraill.

Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2026 a 2041. Bydd yn pennu sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau cynllunio a datblygu yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.

Adroddiad Adolygu

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu CDLl i sicrhau bod CDLlau a’u sylfaen dystiolaeth yn cael eu diweddaru er mwyn darparu sylfaen gadarn ac effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio.

Y cam cyntaf felly oedd paratoi Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri a fu yn destun ymgysylltiad rhanddeiliaid rhwng 7 Ebrill 2023 a 12 Mai 2023.

Gweld Adroddiad Adolygu Cynllun Lleol Eryri

 

Beth sy’n digwydd yn awr?

Y cam nesaf yw paratoi Cytundeb Cyflawni. Rhennir y Cytundeb Cyflawni yn ddwy ran, sef:

1. Amserlen o’r Camau Allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl Newydd; a
2. Cynllun Cynnwys Cymunedau sydd yn nodi sut a pryd gall y rhanddeiliaid a’r gymuned gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.

Gweld y Cytundeb Cyflawni Drafft

Mae’r Cytundeb Cyflawni yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng yr 16eg o Fai 2025 a’r 27ain o Fehefin 2025.

Gallwch ddweud eich dweud ar gynnwys y Cytundeb Cyflawni drwy:

– Cwblhau’r holiadur ar-lein Holiadur ar-lein

– Ebostio eich sylwadau i Polisi.Cynllunio@eryri.llyw.cymru

–  Llenwi holiadur papur sydd ar gael o Bencadlys yr Awdurdod ym Mhenrhyndeudraeth ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod ym Metws y Coed, Beddgelert ac Aberdyfi a’i bostio i:

Tîm Polisi
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Dyddiad cau: Rhaid anfon eich sylwadau erbyn 5yh ar y 27ain o Fehefin 2025.

Beth sydd yn digwydd wedi’r ymgynghoriad?

Ar ôl derbyn eich sylwadau ar y Cytundeb Cyflawni, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod ar gyfer ystyriaeth yr aelodau a gwneud penderfyniad terfynol ar gynnwys y Cytundeb Cyflawni.

Os bydd yr Awdurdod yn cymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni fe fydd yn cael ei anfon i Llywodraeth Cymru ar gyfer eu cymeradwyaeth.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth reolaidd ynglŷn â’r broses o ddiwygio’r Cynllun Datblygu Lleol (gan gynnwys ymgynghoriadau) yna cofrestrwch eich manylion gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Cofrestru ar fas-data cysylltiadau Cynllun Datblygu Lleol Eryri