Mae Awdurdod Parc Cendlaethol Eryri wedi dechrau’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Eryri newydd. Mae’r CDLl yn nodi beth y gellir ei adeiladu a ble. Mae’n mynd i’r afael â’r angen a’r lleoliadau am dai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, manwerthu, mannau agored a defnyddiau tir eraill.
Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2026 a 2041. Bydd yn pennu sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau cynllunio a datblygu yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.
Adroddiad Adolygu
Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu CDLl i sicrhau bod CDLlau a’u sylfaen dystiolaeth yn cael eu diweddaru er mwyn darparu sylfaen gadarn ac effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio.
Y cam cyntaf felly oedd paratoi Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri a fu yn destun ymgysylltiad rhanddeiliaid rhwng 7 Ebrill 2023 a 12 Mai 2023.
Gweld Adroddiad Adolygu Cynllun Lleol Eryri
Cytundeb Cyflawni
Mae’r Cytundeb Cyflawni yn nodi:
1. Amserlen o’r Camau Allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl Newydd; a’r
2. Cynllun Cynnwys Cymunedau sy’n datgan sut a phryd gall rhanddeiliaid a chymunedau gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.
Roedd y Cytundeb Cyflawni yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Mai’r 16eg 2025 a Mehefin y 27ain 2025, a chafodd ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Aelodau’r Awdurdod ar y 10fed o Fedi 2025
Ar y 3ydd o Hydref, cytunodd Llywodraeth Cymru’n ffurfiol i Gytundeb Cyflawni’r Awdurdod, gan gadarnhau’n swyddogol yr amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl newydd a sefydlu’r Cynllun Cynnwys Cymunedol.
Gweld llythyr Llywodraeth Cymru
Galw am Safleoedd Posib
Cam hollbwysig wrth llunio’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yw adnabod safleoedd posib ar gyfer defnydd, megis tai, cyflogaeth, seilwaith gwyrdd a mannau agored, a.y.y.b. Mae angen adnabod safleoedd felly ar gyfer datblygu, yn ogystal âg adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu gwerth fel tirwedd arbennig, mannau agored, neu am eu gwerth cadwriaethol.
Cynhaliwyd y cyfnod galw am safleoedd o Chwefror 17 2026 hyd 11 Mai 2026. Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cymunedol, tirberchnogion a datblygwyr i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mae’r alwad am safleoedd bellach wedi cau.
Galw am Safleoedd Posib – Dogfennau Atodol a Gwybodaeth Bellach
Gweler Dogfennau Atodol a Gwybodaeth Bellach am gyfarwyddiadau pellach ynghylch y broses. Mae’r Nodiadau Canllaw, dogfen Proses a Methodoleg ar gyfer Safleoedd Posib, yn ogystal a’r Map Cyfyngiadau hefyd i’w cael yma.
Dogfennau Atodol a Gwybodaeth Bellach
Cadw mewn cysylltiad
Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth rheolaidd ynglŷn â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd (gan gynnwys ymgynghoriadau) yna gallwch gofrestru eich manylion drwy greu cyfrif drwy’r ddolen isod.
Cofrestru ar fas-data cysylltiadau Cynllun Datblygu Lleol Eryri