Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Rhoddir statws rhestredig i adeiladau sy’n bwysig oherwydd eu hanes neu bensaernïaeth. Mae tri math o raddfeydd rhestredig.

  • I – Adeiladau o ddiddordeb cenedlaethol eithriadol
  • II* – Adeiladau o bwysigrwydd arbennig
  • II – Adeiladau o ddiddordeb arbennig

Gwneud gwaith ar adeiladau rhestredig

Cyn dechrau unrhyw waith ar adeilad rhestredig, dylech ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn penderfynu a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, caniatâd cynllunio neu, mewn rhai achosion, y ddau.

Ar gyfer adeiladau rhestredig, mae’r math o waith sydd angen caniatâd neu ganiatâd cynllunio yn gyffredinol yn cynnwys:

  • ailosod drysau neu ffenestri
  • adeiladu estyniad
  • peintio dros waith brics
  • gosod erialau teledu, dysglau lloeren neu larymau lladron
  • newid deunydd ar y to
  • symud neu dynnu waliau mewnol
  • tynnu neu addasu lleoedd tân, paneli neu risiau

Gwneud Cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig

Cyn gwneud cais ffurfiol am ganiatâd adeilad rhestredig, argymhellir eich bod yn defnyddio’r Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffactorau a allai effeithio ar eich cais ac yn eich galluogi i fynd i’r afael â’r materion hyn cyn cyflwyno’ch cais yn ffurfiol.

Nid oes ffi am wneud ymholiad cyn cyflwyno cais ar adeilad rhestredig oni bai bod angen ymweliad safle. Y ffi am ymweliad safle yw £100 ac ni ellir cynnal unrhyw ymweliadau safle nes bod y ffi hon wedi’i thalu.

Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais

Unwaith y byddwch yn barod i wneud cais ffurfiol, gallwch naill ai lenwi’r ffurflenni PDF perthnasol neu wneud cais ar-lein gan ddefnyddio gwefan Llywodraeth Cymru.

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio