Mae’r gwasanaeth cydymffurfio yn cael ymholiadau am dor-rheolaeth cynllunio tybiedig o sawl ffynhonnell, gan gynnwys grwpiau cymunedol, unigolion a Chynghorau Cymuned.
Gall unrhyw un sy’n dymuno gofyn i’r Awdurdod ymchwilio i dor-rheolaeth cynllunio honedig wneud hynny drwy gyfrwng un o’r dulliau canlynol:
- Trwy ysgrifennu llythyr
- e-bost
- trwy ddefnyddio’r map rhyngweithiol i hysbysu tor-rheolaeth cynllunio honedig
- drwy lenwi’r ffurflen sydd ynghlwm
Dylai’r ohebiaeth ysgrifenedig gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl. Er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn gallu ymchwilio’n effeithiol i’r mater, a fyddech gystal â chynnwys yr wybodaeth a ganlyn ble bynnag bosibl:
- Enw’r person neu’r cwmni sy’n cynnal y gweithgareddau diawdurdod honedig;
- Cyfeiriad yr adeilad neu’r safle;
- Manylion y cwyn, pryd y dechreuodd y gwaith diawdurdod, a yw’n dal i barhau a pha mor aml mae’n digwydd; a
- Manylion y problemau penodol a ddaw yn ei sgîl.
Gwasanaeth o ba safon allaf i ei ddisgwyl?
Os ydych yn cofnodi cwyn gyda’r Awdurdod, gallwch fod yn sicr:
- Ni fyddwn yn datgelu eich manylion, oni bai fod barnwr neu ynad yn gorfodi’r datgeliad;
- Cydnabyddir y gwyn yn ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod gwaith o’i derbyn;
- Estynnir gwahoddiad i gyflwyno sylwadau ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio sy’n codi yn sgîl y gwyn; ac
- Fe’ch hysbysir ynglŷn â chanlyniad y gwyn, pryd (os o gwbl) y bydd y camau gorfodi yn dechrau, a phryd y byddant wedi’u cwblhau yn foddhaol.
Bwriedir ymateb a chyflwyno rhybudd gorfodaeth neu gyffelyb sy’n angenrheidiol er mwyn datrys y gwyn cyn pen 12 wythnos. Mae pob rhybudd gorfodaeth yn cynnwys yr hawl i gyflwyno apêl, a all fod yn broses hir.
Pa gamau fydd yr Awdurdod yn eu cymryd unwaith y byddaf wedi cwyno?
Wrth weithredu mewn perthynas â chwyn a gafwyd, byddwn yn ymchwilio’r mater trwy gasglu gwybodaeth a chynnal archwiliadau ar y safle. Byddwn yn trafod y mater gyda’r person / cwmni dan sylw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth a all ddangos pwy sydd wedi gwneud y gwyn.
Os yw ein hymchwiliad yn datgelu bod yna dor-rheolaeth cynllunio, rhoddir gwybod i’r person / cwmni sydd a wnelo’r mater ynglŷn â nhw, beth fydd rhaid iddo ef / hi wneud i unioni’r sefyllfa, ac erbyn pryd.
Mae gan yr Awdurdod amrediad eang o bwerau i ymdrin â thor-rheolaeth cynllunio tybiedig neu wirioneddol, sy’n amrywio o rybudd ysgrifenedig anffurfiol i rybuddion gorfodi, ac weithiau gwaharddebau. Wrth ymdrin â phob achos unigol, byddwn yn asesu pa bŵer a fydd fwyaf priodol i ddatrys y mater yn foddhaol, parhaol a chost effeithiol.
Sut i fynegi pryder ynghylch datblygiad
Gallwch godi pryder am ddatblygiad trwy gysylltu â’r Awdurdod neu ddefnyddio’r ‘Map Cyflwyno Cwyn’ rhyngweithiol.