Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Bydd angen i chi gysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i dalu ffi cais cynllunio neu ffi Gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

Wrth dalu ffi, sicrhewch fod gennych gyfeiriad safle’r cais yn ogystal â’ch rhif cyfeirnod cynllunio. Dylai’r rhif hwn gychwyn gyda NP neu PP.

Trwy drosglwyddiad banc

Cysylltwch â’r Awdurdod am fanylion talu ffi trwy drosglwyddiad banc.

Cysylltu â’r Awdurdod

Gyda cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn

Cysylltwch â’r Awdurdod ar 01766 770274 i dalu â cherdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn.

Trwy siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’i phostio i:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF

Ad-daliadau

Mae ad-daliadau ond yn daladwy os yw eich cais:

  • yn cael ei ddychwelyd atoch oherwydd ei fod yn annilys neu;
  • os nad yw’r ymgeisydd a’r Awdurdod yn cytuno i gyfnod estynedig o amser i benderfynu ar gais.

Darperir ad-daliad 16 wythnos ar ôl dyddiad dechrau cais deiliad tŷ a 24 wythnos ar ôl dyddiad dechrau pob cais arall.

Ni fydd modd derbyn ad-daliad os yw eich cais yn cael ei wrthod neu ei dynnu’n ôl.

Mae gennych hawl i apelio i Lywodraeth Cymru yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod i wrthod eich cais.