Mae adroddiadau ecolegol yn nodi’r effeithiau y gall datblygiad ei gael ar fioamrywiaeth a sut y gellir lleihau’r effeithiau hynny.
Mae rhai datblygiadau angen adroddiad ecolegol fel rhan o’r cais cynllunio ffurfiol.
Pryd y dylid cynnal adroddiad ecolegol?
Mae’n debygol y bydd angen adroddiad os oes awgrym bod gan safle’r datblygiad:
- cynefinoedd y gall rhywogaethau a warchodir eu defnyddio
- tystiolaeth o rywogaethau a warchodir yn byw yn yr ardal
Dylech gynnal unrhyw arolygon, asesiadau neu adroddiadau cyn cyflwyno eich cais cynllunio yn ffurfiol.
Beth sy’n cael ei gynnwys mewn adroddiad ecolegol?
Bydd adroddiadau ecolegol yn edrych ar effaith eich datblygiad ar fioamrywiaeth yn eich safle ac o’i amgylch. Dim ond syrfewyr cymwys a thrwyddedig all wneud y gwaith hwn. Bydd y syrfëwr ecolegol a fydd yn cynnal eich adroddiad yn:
- asesu’r bywyd gwyllt, yn enwedig rhywogaethau a warchodir, a allai fod yn defnyddio neu’n byw yn yr ardal, e.e. adar ac ystlumod
- ystyried a fydd eich datblygiad yn effeithio ar unrhyw gynefinoedd sy’n bwysig i rywogaethau a warchodir
- edrych ar ffyrdd y gall eich datblygiad wella bioamrywiaeth yn yr ardal
Os canfuwyd rhywogaethau a warchodir, dylai eich cais cynllunio gynnwys gwybodaeth am:
- sut y byddwch yn osgoi effeithiau posibl ar fioamrywiaeth
- sut y byddwch yn lliniaru effeithiau anochel ar fioamrywiaeth
- sut y byddwch yn gwneud iawn am effeithiau gweddilliol
Rhywogaethau a Warchodir
Mae nifer fawr o rywogaethau gwarchodedig o fewn y Parc Cenedlaethol. Rhoddir statws rhywogaeth a warchodir fel arfer i rywogaethau y mae eu niferoedd yn prinhau, neu eu cynefin dewisol dan fygythiad.
Mae enghreifftiau o rywogaethau gwarchodedig yn Eryri yn cynnwys:
- Ystlumod
- Pathewod
- Moch Daear
- Dyfrgwn
- Gwiwerod cgoch