Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Amcanion y Cynllun Gweithredu

1. Cynnal a gwella Bioamrywiaeth Eryri trwy:

  • ddiogelu poblogaeth a dosbarthiad rhywogaethau lleol – nid yn unig rai prin a dan fygythiad, ond rhai cyffredin hefyd
  • ddiogelu cynefinoedd ac ecosystemau naturiol a lled-naturiol lle gellir cynnal rhywogaethau oddi mewn iddynt
  • nodi, lle bo’n briodol, pa gynefinoedd fyddai’n addas i’w hadfer a/neu ba rywogaethau fyddai’n addas i’w hailgyflwyno

2. Cyfrannu at gadwraeth Bioamrywiaeth Prydain a byd-eang trwy integreiddio gyda thargedau cenedlaethol a rhyngwladol.

3. Annog mwy o gyfranogiad a chwarae rhan yn natblygiad y Cynllun ymhlith aelodau o gymunedau lleol a rhai sy’n ymweld â’r Parc.

4. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Gynllun Bioamrywiaeth Eryri.

5. Monitro effeithiolrwydd y Cynllun yn rheolaidd.

6. Ceisio sicrhau fod y Cynllun yn ddogfen waith fyw a hirdymor.

7. Mae’r canlynol wedi’i hadnabod fel rhywogaethau i’w blaenoriaethu yn Eryri.

Adar

Y Grugiar Ddu (Tetrao tetrix)
Brân Goesgoch (Pyrrhocorax pyrrhocorax)
Y Gylfinir (Numenius arquata)
Cornicyll Aur (Pluvialis squatarola)
Y Gnocell Werdd (Picus viridis)
Y Boda Tinwyn (Circus cyaneus cyaneus)
Cornchwiglen (Vanellus vanellus)
Gwylan Gefnddu Leiaf (Larus fuscus)
Y Troellwr (Caprimulgus europeaus)
Y Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca)
Y Tingoch (Phoenicurus phoenicurus)
Ehedydd (Alauda arvensis)
Bronfraith (Turdus philomelos)
Llinos y Mynydd (Carduelis flavirostris)
Telor y Coed (Phylloscopus sibilatrix)

Anifeiliaid Asgwrn cefn

Y Sgwarnog (Lepus europeaus)
Y Pathew (Muscardinus avellanarius)
Y Ffwlbart (Mustela putorius)
Y Madfall Gribog Fwyaf (Triturus cristatus)
Gwyniad (Coregonus lavaretus)
Yr Ystlum Pedol Lleiaf (Rhinolophus hipposideros)
Ystlum Natterer (Myotis nattereri)
Ystlum Mawr (Nyctalus noctula)
Y Dyfrgi (Lutra lutra)
Bele’r Coed (Chrysolina cerealis)
Yr Ystlum Lleiaf (Pipistrellus pipistrellus)
Y Wiwer Goch (Sciurus vulgaris)
Y Llygoden Ddŵr (Arvicola terrestris)

Anifeiliaid Di-asgwrn Cefn

Gwladwr Ashworth (Xestia ashworthi)
Misglen Berlog yr Afon (Margaritifera margaritifera)
Y Falwen Ludiog (Myxas glutinosa)
Glöyn Mawr y Waun (Coenonympha tullia)
Britheg y Gors (Eurodryas aurinia)
Glöyn Glesyn Serennog (Plebejus argus)
Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis)
Cilradain Gymreig (Synanthedon scoliaeformis)

Planhigion

Mwsog (Ditrichum plumbicola)
Petalys (Petalophyllum ralfsii)
Marchredynen y Mynydd (Woodsia alpina)
Yr Effros (Euphrasia cambrica & E. rivularis)
Llyriad y Dŵr (Luronium natans)
Corn Carw (Lycopodiella inundata)
Farchredynen Hirgul (Woodsia ilvensis)
Mwsog pluog ymledol (Sematophyllum demissum)
Y Mwsog Pluog Main Gwyrdd (Drepanocladus vernicosus)
Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina)
Y Tormaen Siobynnog (Saxifraga cespitosa)
Eithin y Gorllewin (Ulex gallii)