Beth yw gwaith y Gwasanaeth Cydymffurfiaeth?

Mae cywirdeb y system gynllunio’n dibynnu ar barodrwydd yr Awdurdod i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith gynllunio a phenderfyniadau sydd a wnelo caniatâd cynllunio. Tanseilir ffydd y cyhoedd os yw adeilad heb awdurdod, gwaith cloddio neu newid defnydd yn digwydd heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Nod y gwasanaeth hwn yw dod â gweithgareddau o’r fath o dan reolaeth cyn gynted ag y bo modd.

Beth fydd yn digwydd os yw rhywun wedi gwneud cwyn yn fy erbyn?

Cam cyntaf unrhyw ymchwiliad yw sefydlu p’un a oes yna dor-rheolaeth cynllunio wedi digwydd o ddifrif ai peidio.

Wrth weithredu mewn perthynas â chwyn, byddwn yn ymchwilio i’r mater trwy gasglu gwybodaeth a chynnal ymchwiliadau ar y safle. Byddwn yn trafod y mater yn llawn gyda chi, ac yn eich hysbysu beth sy’n digwydd trwy gydol y broses. Fodd bynnag, ni fydd yn bosibl i ni ddatgelu manylion y sawl sydd wedi cwyno.

Os yw’r ymchwiliadau’n dangos nad oes angen caniatâd cynllunio, fe’ch hysbysir mewn ysgrifen na fwriedir cymryd unrhyw gamau pellach.

Beth fydd yn digwydd os darganfyddir fy mod wedi torri rheolau cynllunio?

Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi pa reolau cynllunio sydd wedi’u torri, pa gamau y bydd angen eu cymryd i gywiro’r sefyllfa, ac erbyn pryd.

Bydd cyfle i chi drafod a datrys y mater cyn i ni ddechrau cymryd camau gweithredu; oni bai fod angen gweithredu’n ddi-oed o ystyried difrifoldeb y tor-rheolaeth cynllunio, neu os ydych yn peidio â chydweithredu’n fwriadol.

Os nad yw’r achos yn un difrifol, byddwn yn dweud wrthych ein bod yn bwriadu cyflwyno rhybudd ysgrifenedig ffurfiol.

Os bydd rhaid cymryd camau gorfodi, byddwn yn esbonio ein rhesymau dros wneud hynny, unrhyw bolisïau cynllunio perthnasol y seiliwyd y penderfyniad arnynt, a’r dulliau apêl sy’n agored i chi.

Sut allaf i osgoi torri amodau cynllunio?

Mae cynllunio’n broses gymhleth sy’n gofyn am sylw arbennig i fanylder fel rheol i sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw faterion. Mae camgymeriadau gwirioneddol yn digwydd o bryd i’w gilydd wrth weithredu caniatâd cynllunio. Felly, bydd Swyddogion Cydymffurfiaeth yr Awdurdod bob amser yn fwy na pharod i weithio gyda chi cyn i’r gwaith ddechrau, ac yn ystod cyfnod y project, i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r amodau cynllunio.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Adran Cydymffurfiaeth Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu cyfeiriwch at ein Polisi Cydymffurfiaeth*, sydd ar gael o’n Llyfrgell Gyhoeddiadau ar ein gwefan.

*Mae’r Polisi Cydymffurfiaeth yn amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn categoreiddio cwynion (ag amserlen ar gyfer ymchwilio), sut y cynhelir ymweliadau safle ac esboniad o’r gwahanol gamau gorfodi y gellir eu cymryd.