Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Dylech bob amser ystyried effaith eich datblygiad ar eich cymdogion neu unrhyw adeiladau a feddiannir gerllaw.

Mae rhai o’r effeithiau mwyaf cyffredin y gallai datblygiadau eu cael ar gymdogion yn cynnwys:

  • effeithio ar neu dynnu rhywfaint o’r golau sy’n cyrraedd eu cartref
  • difetha golygfa o gartref eich cymdogion
  • mae’r gwaith datblygu ei hun yn achosi sŵn ac aflonyddwch

Gall effeithiau llai cyffredin gynnwys materion lle gall eich datblygiad gael effaith strwythurol ar gartref neu dir eich cymdogion.

Arfer da gyda’ch cymdogion

Dylech bob amser roi gwybod i’ch cymdogion am eich cynlluniau datblygu. Bydd cyfathrebu da o’r cychwyn yn sicrhau y byddwch chi a’ch cymdogion yn deall effaith y gwaith cyn iddo ddechrau.

Dylech gysylltu â’ch cymdogion am y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud cyn gwneud cais ffurfiol am ganiatâd cynllunio.

Efallai y gallwch ddatrys llawer o faterion neu bryderon sydd gan eich cymydogion gyda’ch datblygiad arfaethedig drwy newidiadau mân yn eich cynigion dylunio.

Hawliau eich cymdogion

Bydd gan eich cymdogion, fel pawb arall, yr hawl i gyflwyno sylwadau ffurfiol ar eich datblygiad yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Rhoi sylw ar gais cynllunio