Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd i wneud gwaith goleuo ar raddfa fach fel gosod golau newydd dan do neu osod goleuadau diogelwch allanol. Fodd bynnag, mae yna ffactorau y dylech eu hystyried wrth osod neu newid goleuadau.

Goleuadau mewn Adeiladau Rhestredig

Os ydych yn dymuno gosod neu newid y goleuadau ar adeilad rhestredig, dylech wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig. Mae hyn yn berthnasol i’r holl oleuadau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â’r adeilad neu’r tir o amgylch.

Ffactorau ychwanegol sy’n benodol i’r Parc Cenedlaethol

Mae ffactorau ychwanegol i’w hystyried ynglŷn â goleuo wrth ddatblygu o fewn y Parc Cenedlaethol.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ddynodedig. Bydd Awdurdod y Parc yn ystyried yr effaith y gallai gwaith datblygu ei chael ar y dynodiad hwn.

Dylai gwaith datblygu ystyried:

  • effaith goleuo ar ansawdd yr awyr dywyll o amgylch safle’r datblygiad
  • effaith golau ar y bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar awyr dywyll y Parc Cenedlaethol.

Mae sawl ffordd y gallwch chi gynnwys awyr dywyll yn eich datblygiad, gan gynnwys:

  • sicrhau bod y goleuo’n pwyntio i lawr yn hytrach nag i fyny
  • cyfyngu ar faint o amser y mae golau allanol yn weithredol
  • defnyddio golau mewn ardaloedd sydd ei angen