Beth mae’r Gwasanaeth Cydymffurfiaeth yn ei wneud?
Mae cywirdeb y system gynllunio yn dibynnu ar barodrwydd yr Awdurdod i gydymffurfio â chyfraith cynllunio a phenderfyniadau caniatâd cynllunio. Mae hyder y cyhoedd yn cael ei danseilio os bydd gwaith adeiladu, mwyngloddio neu newid defnydd heb awdurdod yn digwydd heb gael caniatâd cynllunio yn gyntaf. Amcan y gwasanaeth cydymffurfio yw dod â gweithgareddau o’r fath o dan reolaeth cyn gynted â phosibl.
Mae’r Awdurdod yn gallu ymchwilio i’r achosion canlynol o dor-rheolaeth cynllunio:
- Datblygiad (hy gwaith adeiladu neu newid defnydd tir) sydd angen caniatâd cynllunio ond mae gwaith wedi mynd rhagddo heb ganiatâd;
- Datblygiad sydd wedi mynd yn groes i gynlluniau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod fel rhan o ganiatâd cynllunio;
- Datblygiad sydd wedi mynd yn groes i amodau a osodwyd gan yr Awdurdod fel rhan o ganiatâd cynllunio;
- Gweithrediadau peirianyddol megis codi neu ostwng lefelau’r ddaear a ffurfio byndiau pridd; a gyflawnwyd heb ganiatâd cynllunio.
- Newidiadau heb ganiatâd i Adeiladau Rhestredig;
- Dymchwel strwythurau mewn Ardal Gadwraeth heb ganiatâd;
- Hysbysebion y mae angen caniatâd i’w harddangos ond na chafwyd caniatâd;
- Eiddo blêr y gellir ei weld o ardal gyhoeddus ac sy’n cael effaith andwyol ar yr ardal ehangach.
- Gwaith di-awdurdod ar goed a warchodir gan Orchymyn Cadw Coed neu waith a wneir ar goed o fewn Ardal Gadwraeth.
- Methiant i gydymffurfio â Chytundebau/ymrwymiadau Adran 106.
Rhoi gwybod am dor-rheolaeth cynllunio
Os hoffech i’r Awdurdod ymchwilio i achos posibl o dor-rheolaeth cynllunio, mae’n rhaid i ni gael cymaint o fanylion â phosibl am doriadau honedig. Bydd yr Awdurdod bob amser yn cyfeirio pobl i fynd ati i gyflwyno eu pryder ar-lein trwy wefan yr Awdurdod neu i ysgrifennu’n ffurfiol at yr Awdurdod. Ni ymwchilir ymhellach i e-byst cyffredinol a phryderon a dderbynnir dros y ffôn.
Rhaid nodi hefyd na fydd pryderon dienw yn cael eu hymchwilio fel arfer.
Gallwch gysylltu â ni gyda’ch pryderon trwy gyfrwng un o’r ffyrdd canlynol:
Trwy lenwi ffurflen ar-lein:
Rhoi gwybod am dor-rheolaeth cynllunio
Dyma’r lleiafswm o wybodaeth sydd ei hangen i’n galluogi i gynnal ymchwiliad effeithiol:
- dylid darparu eich enw, cyfeiriad (post neu e-bost) a rhif ffôn cyswllt, mae hyn er mwyn i ni allu rhoi ymateb, gan nodi unrhyw gamau yr ydym wedi’u cymryd, neu yr ydym yn bwriadu eu cymryd.
- enw’r person neu’r cwmni sy’n ymgymryd â’r gwaith neu weithgareddau diawdurdod honedig.
- cyfeiriad yr adeilad neu safle (bydd cynllun lleoliad/cyfeirnod grid yn ddefnyddiol).
- manylion unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol ar gyfer datblygu’r tir.
- natur y tor-rheolaeth honedig, pryd y digwyddodd gyntaf (dyddiadau ac amseroedd), a yw’n parhau ac amlder y gweithgaredd; a
- manylion y problemau sy’n cael eu hachosi; er enghraifft, effaith weledol, sŵn, arogleuon, creu traffig ac ati.
Os byddwch yn cofrestru cwyn gyda’r Awdurdod, gallwch fod yn sicr o’r hyn a ganlyn:
- Cedwir eich cyfrinachedd oni bai bod barnwr neu ynad yn gorfodi datgeliad;
- Darperir cydnabyddiaeth ysgrifenedig o’r gŵyn a dderbyniwyd o fewn 10 diwrnod gwaith o’i derbyn;
- Rhoddir gwahoddiad i roi sylwadau ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio sy’n codi o’r gŵyn; a
- Byddwch yn cael eich hysbysu o ganlyniad y gŵyn.
Yn ysgrifenedig:
Dylid marcio’r llythyrau “Cyfrinachol – Ddim i’w Rhyddhau ” a’u cyfeirio at:
Yr Uwch Swyddog Cynllunio (Cydymffurfiaeth)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6LF
Pa gamau y bydd yr Awdurdod yn eu cymryd unwaith y byddaf wedi rhoi gwybod am dor-rheolaeth cynllunio?
Wrth weithredu ar gŵyn a dderbyniwyd, byddwn yn ymchwilio i’r mater trwy gasglu gwybodaeth a chynnal archwiliadau safle. Byddwn yn trafod y mater gyda’r person/cwmni dan sylw, fodd bynnag ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi.
Os bydd ein hymchwiliad yn datgelu bod rheolau cynllunio wedi’u torri, bydd y person/cwmni dan sylw yn cael gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i unioni’r sefyllfa, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud hyn.
Mae gan yr Awdurdod amrywiaeth o bwerau i ymdrin ag achosion lle amheuir neu lle mae tor-rheolaeth cynllunio gwirioneddol wedi digwydd, yn amrywio o rybudd ysgrifenedig anffurfiol i hysbysiadau gorfodi ac weithiau gwaharddebau. Ar gyfer pob achos unigol, byddwn yn asesu pa bŵer sydd fwyaf addas er mwyn cyflawni’r datrysiad boddhaol, parhaol a chost-effeithiol.
Lle bernir bod y tor-rheolaeth yn fach heb unrhyw effaith sylweddol, mae’n bwysig cofio bod gorfodi cynllunio yn bŵer dewisol, ac nid yw cynllunio da yn cael ei wasanaethu gan fynd ar drywydd achosion dibwys o dor-rheolaeth. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni benderfynu fesul achos a yw er budd y cyhoedd i gymryd camau gorfodi. Felly nid oes rhaid cymryd camau mewn perthynas â phob achos o dor-rheolaeth cynllunio a nodir, ac yn y rhan fwyaf o achosion, byddai’n amhriodol cymryd camau ffurfiol yn erbyn tor-rheolaeth ddibwys neu dechnegol nad yw’n achosi unrhyw niwed i amwynder yn ardal y safle.
Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Polisi Cydymffurfiaeth
*Mae’r Polisi Cydymffurfiaeth yn amlinellu sut mae’r Gwasanaeth yn categoreiddio cwynion (gydag amserlenni ar gyfer ymchwilio), cynnal ymweliadau safle ac mae’n rhoi eglurhad am y gwahanol gamau gorfodi y gellir eu cymryd.
Pan nad yw camau gorfodi cynllunio yn bosibl
Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mân waith neu weithgareddau, er enghraifft, gwaith mewnol i adeiladau, neu waith allanol nad yw’n newid eu gwedd / ymddangosiad yn sylweddol. Ymhellach, diffinnir gwaith adeiladu arall fel datblygiad a ganiateir, ac felly, cel y cyfryw, nid yw cais ffurfiol am ganiatâd cynllunio yn
ofynnol. Er enghraifft, mae hawliau datblygu a ganiateir helaeth ar gael i
ddeiliaid tai er mwyn gallu addasu neu ymestyn eiddo domestig heb fod angen gofyn am ein caniatâd ymlaen llaw.
Ni fyddwn yn gallu cymryd camau gorfodi yn yr achosion canlynol;
- Os nad oes angen caniatâd ar gyfer y datblygiad.
- Os oes gan y datblygiad y caniatâd angenrheidiol yn barod.
- Lle mae gwaith wedi dod yn imiwn rhag gweithredu o ganlyniad i dreigl amser (megis y rheol 4 / 10 mlynedd), hyd yn oed os nad oedd ganddo ganiatâd yn y lle cyntaf.
- Anghydfodau dros ffin / parcio / perchnogaeth tir / torri cyfamod / materion hawl i olau.
Lle nodir mater nad yw’n ymwneud â chynllunio byddwn yn trosglwyddo’r gŵyn i adran berthnasol yr Awdurdod neu gorff arall i ymchwilio iddo.