Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod safonau a pholisïau ar gyfer datblygu o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Awdurdod yn cyfeirio at y cynllun er mwyn llywio eu penderfyniadau cynllunio.
Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhestru ffactorau i’w hystyried wrth werthuso ceisiadau cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio. Mae’r ffactorau’n seiliedig ar y rhinweddau sydd angen eu gwarchod a’u gwella o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- harddwch naturiol y parc
- cymunedau a diwylliant y parc
- bywyd gwyllt y parc
- treftadaeth a hanes y parc
Map Rhyngweithiol Cynllun Datblygu Lleol Eryri
Mae Map Rhyngweithiol Cynllun Datblygu Lleol Eryri yn eich galluogi i weld pa bolisïau sy’n effeithio ar ba ardaloedd o fewn y Parc Cenedlaethol.
Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r ddogfennaeth hyn yn manylu ymhellach ar y polisïau sydd yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae sawl dogfen Canllaw Cynllunio Atodol yn edrych ar wahanol faterion datblygu, gan gynnwys:
- Dylunio cynaliadwy
- Llygredd golau
- Yr iaith Gymraeg
- Tai fforddiadwy
- Llety ymwelwyr
Mae copïau caled o Gynllun Datblygu Lleol Eryri 2016–2031 mabwysiedig gan gynnwys ei Gynigion a’i Fapiau Mewnosod ar gael i’w harchwilio yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth ac yng Nghanolfannau Croeso’r Awdurdod.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyhoeddi mapiau manwl a mapiau cynigion i gyd-fynd â’r Cynllun Datblygu Lleol. Pwrpas y mapiau hyn yw dangos ‘statws’ ardaloedd penodol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Er enghraifft, mae’r mapiau’n amlinellu’r lleoedd a ddynodwyd fel:
- Ardaloedd o Harddwch Naturiol
- Ardaloedd Cadwraeth
- Ardaloedd Awyr Dywyll
Mae gan yr ardaloedd hyn safonau a pholisïau penodol sy’n gwarchod eu rhinweddau arbennig.
Y cam cyntaf wrth gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Lleol yw datblygu’r sylfaen dystiolaeth.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ystyried beth yw’r prif heriau sy’n wynebu’r Parc Cenedlaethol a sut y gall polisïau Cynllun Datblygu Lleol geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn. Bydd yr Awdurdod yn ymgynghori â cymunedau’r Parc wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol i sicrhau bod y cynllun drafft yn diwallu eu hanghenion yn effeithiol.
Unwaith y bydd y sylfaen dystiolaeth wedi’i datblygu, gall y gwaith o ddrafftio’r cynllun ddechrau. Bydd y wybodaeth a’r materion a gesglir yn llywio datblygiad polisïau newydd neu’n diwygio polisïau presennol.
Ar ôl cwblhau’r broses ddrafftio, bydd Yr Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio’r cynllun drafft. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am faterion cynllunio dros Gymru gyfan.
Bydd Arolygydd Cynllunio yn cynnal archwiliad cyhoeddus i ystyried sylwadau ar y cynllun drafft.
Ar ddiwedd y broses, bydd yr Awdurdod yn mabwysiadu’r cynllun ac yn ei ddefnyddio i lywio eu penderfyniadau cynllunio.
Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol bob pedair blynedd. Gall adolygiad gymryd rhwng 2-3 blynedd i’w gwblhau.