Datblygu dyfodol cynaliadwy i ardaloedd cadwraeth Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) yn cychwyn ar brosiect newydd i reoli 14 Ardal Gadwraeth Eryri. Wedi’i ariannu gan gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, bydd y prosiect, dan arweiniad Chambers Conservation, i sicrhau y gall cadwraeth gynaliadwy wella’r Ardaloedd Cadwraeth i’r dyfodol.

Beth yw Ardal Gadwraeth?

Mae ardal gadwraeth yn cael ei ddiffinio fel ardal o “ddiddordeb pensaernïol neu bwysigrwydd hanesyddol, ble mae cymeriad neu edrychiad yn ddymunol i’w ddiogelu neu fireinio” (Deddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990). Y nod o ddynodi ardaloedd cadwraeth yw sicrhau nad yw’r cymeriad yn cael ei niweidio, ddinistrio neu danseilio gan newidiadau amhriodol i’r elfennau sy’n ffurfio’r ardal. Nid adeiladau yn unig sy’n cyfrannu at gymeriad arbennig o fewn ardaloedd cadwraeth, ond y deunyddiau a ddefnyddir, hanes, manylion pensaernïol a thirlunio medal a chaled gan gynnwys coed.

Mae yna 14 Ardal Gadwraeth wedi’u dynodi o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, rhain yw:

  • Aberdyfi
  • Abergwyngregyn
  • Y Bala
  • Beddgelert
  • Betws y Coed
  • Abaty Cymmer (Llanelltyd)
  • Dolbenmaen
  • Dolgellau
  • Harlech
  • Llanllechid
  • Maentwrog
  • Nantmor
  • Nant Peris
  • Pandy’r Odyn
Map ardaloedd Cadwraeth

Gallwch weld ardaloedd cadwraeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ar fap rhyngweithiol.

Map Rhyngweithiol

Y Nod

Bydd y prosiect hwn yn rhedeg rhwng Hydref 2021 – Mawrth 2022 gyda’r nod o weithio gyda cymunedau lleol a grwpiau â diddordeb yr Ardaloedd Cadwraeth i ddatblygu Gwerthusiad a Chynlluniau Rheoli. Bydd y cynlluniau hyn yn gweithredu fel datganiad o arwyddocâd a chynllun gweithredu i warchod a gwella’r Ardaloedd gyda phwyslais penodol ar eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

Yn benodol, bydd y Gwerthusiad yn diffinio’r hyn sy’n bwysig am yr ardaloedd ond hefyd, trwy ddadansoddiad, yn dechrau adnabod lle mae materion, cyfleoedd a ffactorau eraill. Bydd y Cynlluniau Rheoli dilynol yn darparu fframwaith i reoli’r Ardaloedd Cadwraeth yn effeithiol, gan wella a gwarchod eu cymeriad arbennig mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol, a darparu arweiniad effeithiol i’r rhai sy’n byw, gweithio, buddsoddi a rheoli yn yr ardaloedd.

Bwriad y prosiect hwn yw rhoi’r cyfarpar angenrheidiol i’r cymunedau lleol yn ogystal â’r Awdurdod i warchod a datblygu’r Ardaloedd Cadwraeth dynodedig yn gynaliadwy. Dylai

  • galluogi datblygiad mwy priodol ac effeithlon o ran ynni.
  • darparu sylfaen ar gyfer cynlluniau grant a hyfforddiant yn y dyfodol a allai gynnwys darparu cymorth cyllid grant i gymunedau lleol wneud gwelliannau i’w cymunedau
  • Codi ymwybyddiaeth o dechnegau a deunyddiau adeiladu traddodiadol i gynorthwyo gyda gwaith atgyweirio priodol a chynnal a chadw adeiladau.
  • Codi ymwybyddiaeth o ddulliau priodol o wella perfformiad ynni adeiladau traddodiadol a hanesyddol

Ymgynghori

Er mwyn sicrhau llwyddiant i’r prosiect, mae mewnbwn gan y cymunedau lleol yn allweddol oherwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth leol o’r ardaloedd a’u hanes nad yw’n bosibl dysgu o unrhyw ffynhonnell arall.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi cau, fodd bynnag gweler y manylion trwy’r ddolen isod.

Ymgynghoriad Cyhoeddus 

Prosiect Ardaloedd Cadwraeth: Cynllun Grant

Mae grantiau bellach ar gael i gynorthwyo gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni a / neu uwchraddio thermol eiddo cyhoeddus, cymunedol a masnachol o fewn Ardaloedd Cadwraeth dynodedig y Parc Cenedlaethol.

Mwy o Wybodaeth

Cwestiynau Cyffredinol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am yr Ardaloedd Cadwraeth dilynwch y ddolen islaw.

Cwestiynau Cyffredinol