Mae’r rhan fwyaf o’r penderfyniadau cynllunio yn cael eu gwneud gan swyddogion o dan bwerau dirprwyedig, fodd bynnag mae penderfyniadau ar geisiadau cynllunio arwyddocaol, cymhleth neu ddadleuol yn cael eu gwneud gan Bwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cynhelir y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad ar sail ‘hybrid’ a caiff aelodau o’r cyhoedd fynychu mewn person os y dymunant. Caiff cyfarfodydd eu gwe-ddarlledu yn fyw a bydd recordiad ar gael i’w wylio’n ôl.
Mynychu Pwyllgor Cynllunio a Mynediad mewn person
Cynhelir Pwyllgorau Cynllunio a Mynediad yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth. Gallwch fynychu’r cyfarfod mewn person drwy ymweld â’r swyddfa ar y dyddiad y cynhelir y cyfarfod. Sylwch nad oes gennych chi’r hawl i roi sylw ar unrhyw fater cynllunio wrth fynychu. Dylech wneud cais i siarad gerbron y Pwyllgor Cynllunio os y dymunwch roi sylw ar gais neu fater cynllunio.
Siarad gerbron y pwyllgor cynllunio
Gwe-ddarlledu a recordiadau
Gwe-ddarlledir Pwyllgorau Cynllunio a Mynediad yn fyw ar sianel YouTube Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir hefyd gwylio recordiad o’r cyfarfod yn ôl.
Aelodau’r Pwyllgor
Mae gan y pwyllgor 18 aelod—chwe aelod penodedig o Lywodraeth Cymru, naw o Gyngor Gwynedd a thri aelod o Gyngor Conwy.
Mae rhestr lawn o aelodau’r pwyllgor i’w gweld ar y dudalen Aelodau a Staff.
Dyddiadau cyfarfodydd 2024
Bydd y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yn ymgynnull ar y dyddiadau a ganlyn:
- 26 Mehefin, 2024 am 10:00yb
- 4 Medi, 2024 am 10:00yb
- 16 Hydref, 2024 am 10:00yb
- 4 Rhagfyr, 2024 am 10:00yb
- 22 Ionawr, 2025 am 10:00yb
- 5 Mawrth, 2025 am 10:00yb
- 9 Ebrill, 2025 am 10:00yb
- 21 Mai, 2025 am 10:00yb
- 25 Mehefin, 2025 am 10:00yb
Recordiadau o gyfarfodydd blaenorol
Mae Pwyllgorau Cynllunio a Mynediad yn cael eu cynnal ar sail ‘hybrid’. Mae recordiadau o’r pwyllgorau ar gael ar sianel YouTube Awdurdod y Parc.
Agendâu diweddaraf y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad a gyhoeddwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae rhaglen yn cael ei chyhoeddi tri diwrnod cyn cyfarfod y Pwyllgor, sy’n cynnwys adroddiad ar bob un o’r ceisiadau cynllunio a fydd yn cael eu hystyried. Mae’r adroddiadau unigol yn cael eu paratoi gan y swyddog cynllunio sy’n ymdrin â’r cais penodol hwnnw. Bydd yr adroddiad Cynllunio’n nodi:
- manylion y cais
- crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau neu gefnogaeth a gafwyd
- asesiad o’r cynnig gan roi ystyriaeth i’r cynrychioliadau hyn yn ogystal â Chynllun Lleol Eryri
- argymhelliad yn nodi a ddylid gwrthod y cais ynteu ei gymeradwyo.
Ydynt, ar y wefan yma, ym mhencadlys yr Awdurdod, llyfrgelloedd cyhoeddus, trwy’r Cynghorau Cymuned a lleoliadau eraill. Petaech yn dymuno gweld adroddiad neu fynychu cyfarfod, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â phencadlys yr Awdurdod i gadarnhau’r dyddiad y bydd y cais yn cael ei ystyried.
Bydd y Pwyllgor yn gwneud un o’r penderfyniadau a ganlyn fel rheol mewn perthynas â cheisiadau a roddir ger eu bron:
- caniatáu gydag/heb amodau
- gwrthod (gyda rheswm dros wrthod)
- gohirio er mwyn cynnal Ymweliad Safle
- gohirio er mwyn trafod
- gohirio nes ceir rhagor o wybodaeth
Gall, mae gan y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr hawl i wneud penderfyniad sy’n groes i argymhelliad y swyddog cynllunio, unai fyddai hynny i’w gymeradwyo neu i’w wrthod.