Wrth gyflwyno safle, dylid ystyried y dogfennau Nodiadau Canllaw, Proses a Methodoleg Safleoedd Posib, yn ogystal â’r Map Cyfyngiadau:
Nodiadau Canllaw
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer cwblhau pob cwestiwn ar y ffurflen a’r wybodaeth ychwanegol y dylid eu cyflwyno i gefnogi’r safle.
Proses a Methodoleg Safleoedd Posib
Dyma’r ddogfen sy’n cynnwys y methodoleg a’r broses o asesu Safleoedd Posib, i asesu os yw’n addas i’w cynnwys fel Safle Ymgeisiol posib yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Proses a Methodoleg Safleoedd Posib
Map Cyfyngiadau Rhyngweithiol
Mae’r map yn nodi unrhyw gyfyngiadau o ran polisiau allweddol a safleoedd dynodedig. Bydd angen i unrhyw un sy’n cynnig safleoedd gyfeirio at y map cyfyngiadau er mwyn ateb cwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Cynnig Safleoedd Posib.
Fersiwn Drafft o Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig
Mae’r Adroddiad hwn yn nodi’r fframwaith asesu ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol fel rhan o’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig (GCI). Yr Adroddiad Cwmpasu hwn yw cam cyntaf y broses GCI.
Mae’n rhaid defnyddio’r ffurflen safonol i gyflwyno pob safle unigol. Mae’r Awdurdod yn annog i unrhyw un sy’n cynnig safle i gwblhau’r ffurflen ar lein. Bydd angen cyflwyno’r safleoedd posib erbyn 11eg Mai 2026. Ni fyddai safleoedd a gyflwynir ar ôl 11eg Mai yn cael eu hystyried. Nid yw cyflwyno safle posib yn rhoi unrhyw warant y bydd y safle yn cael ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol Eryri newydd.
Cyflwyno Safle
Os ydych angen unrhyw gymorth pellach , cysylltwch â’r Tim Polisi Cynllunio os gwelwch yn dda:
Ebost: polisicynllunio@eryri.llyw.cymru
Rhif Ffôn: 01766 770274
Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personol a diffinio hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd yr Awdurdod yma: https://eryri.llyw.cymru/datganiad-preifatrwydd/
Bydd yr holl Safleoedd Posib ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr Safle Posib ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y Safleoedd Posib hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i’w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei gynnwys fel rhan o hyn.
Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a’u hasiantaethau (ble y bo’n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at bas ddata CDLl Eyri. Bydd yr Awdurdod yn gohebu â’r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall.