Cynhaliwyd y cyfnod galw am safleoedd o Chwefror 17 2026 hyd 11 Mai 2026. Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cymunedol, tirberchnogion a datblygwyr i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd. Mae’r alwad am safleoedd bellach wedi cau.
Nodiadau Canllaw
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar gyfer cwblhau pob cwestiwn ar y ffurflen a’r wybodaeth ychwanegol y dylid eu cyflwyno i gefnogi’r safle.
Proses a Methodoleg Safleoedd Posib
Dyma’r ddogfen sy’n cynnwys y methodoleg a’r broses o asesu Safleoedd Posib, i asesu os yw’n addas i’w cynnwys fel Safle Ymgeisiol posib yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Proses a Methodoleg Safleoedd Posib
Map Cyfyngiadau Rhyngweithiol
Mae’r map yn nodi unrhyw gyfyngiadau o ran polisiau allweddol a safleoedd dynodedig. Bydd angen i unrhyw un sy’n cynnig safleoedd gyfeirio at y map cyfyngiadau er mwyn ateb cwestiynau perthnasol ar y Ffurflen Cynnig Safleoedd Posib.
Fersiwn Drafft o Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig
Mae’r Adroddiad hwn yn nodi’r fframwaith asesu ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol fel rhan o’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig (GCI). Yr Adroddiad Cwmpasu hwn yw cam cyntaf y broses GCI.
Os ydych angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio os gwelwch yn dda:
Ebost: polisi.cynllunio@eryri.llyw.cymru
Rhif Ffôn: 01766 770274
Sut fyddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Ar 25 Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym, gan osod cyfyngiadau ar sut all sefydliadau gadw a defnyddio data personol a diffinio hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei datgelu i ni ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd yr Awdurdod yma: https://eryri.llyw.cymru/datganiad-preifatrwydd/
Bydd yr holl Safleoedd Posib ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ar ffurf cofrestr Safle Posib ac felly ni ellir eu trin yn gyfrinachol. Bydd manylion am y Safleoedd Posib hefyd yn cael eu dosbarthu i randdeiliaid mewnol ac allanol i’w galluogi i gael eu hasesu fel rhan o broses Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei gynnwys fel rhan o hyn.
Bydd manylion cyswllt yr holl gynigwyr safle a’u hasiantaethau (ble y bo’n berthnasol) yn cael eu hychwanegu at bas ddata CDLl Eyri. Bydd yr Awdurdod yn gohebu â’r rhanddeiliaid drwy e-bost oni nodir fel arall.