Mae ffi yn daladwy ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ac mae’r swm yn dibynnu ar y datblygiad arfaethedig. Mae’r ffioedd yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru ac maent yr un peth ar gyfer holl awdurdodau cynllunio Cymru.
Ffioedd ceisiadau
Nodwch fod y ffioedd yn y ddogfen yn berthnasol i geisiadau a gyflwynir o’r 1af o Ragfyr 2025 ymlaen.
Sut i dalu ffi cais cynllunio
Mae sawl ffordd y gallwch dalu ffi ymgeisio. Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen Talu Ffi.