Cynllun Datblygu Lleol Eryri Newydd (CDLl3)

Mae Awdurdod Parc Cendlaethol Eryri wedi dechrau’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Eryri newydd. Mae’r CDLl yn nodi beth y gellir ei adeiladu a ble. Mae’n mynd i’r afael â’r angen a’r lleoliadau am dai, cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol, manwerthu, mannau agored a defnyddiau tir eraill.

Bydd y CDLl newydd yn cwmpasu cyfnod rhwng 2026 a 2041. Bydd yn pennu sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau cynllunio a datblygu yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.

Adroddiad Adolygu

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol adolygu eu CDLl i sicrhau bod CDLlau a’u sylfaen dystiolaeth yn cael eu diweddaru er mwyn darparu sylfaen gadarn ac effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio.

Y cam cyntaf felly oedd paratoi Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Eryri a fu yn destun ymgysylltiad rhanddeiliaid rhwng 7 Ebrill 2023 a 12 Mai 2023.

Gweld Adroddiad Adolygu Cynllun Lleol Eryri

 

Cytundeb Cyflawni

Mae’r  Cytundeb Cyflawni yn nodi:

1. Amserlen o’r Camau Allweddol ar gyfer paratoi’r CDLl Newydd; a’r
2. Cynllun Cynnwys Cymunedau sy’n datgan sut a phryd gall rhanddeiliaid a chymunedau gyfrannu yn ystod y broses o baratoi’r Cynllun.

Gweld y Cytundeb Cyflawni

Roedd y Cytundeb Cyflawni yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Mai’r 16eg  2025 a Mehefin y  27ain 2025, a chafodd ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Aelodau’r Awdurdod ar y 10fed o Fedi 2025

Gweld yr Adroddiad Ymgynghori

Ar y 3ydd o Hydref, cytunodd Llywodraeth Cymru’n ffurfiol i Gytundeb Cyflawni’r Awdurdod, gan gadarnhau’n swyddogol yr amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl newydd a sefydlu’r Cynllun Cynnwys Cymunedol.

Gweld llythyr Llywodraeth Cymru

 

Beth sy’n digwydd rŵan?

Rhwng Tachwedd 2025 ac Ebrill 2027, byddwn yn y cyfnod ‘Cyfranogiad Cyn-adneuo. Yn y cam hwn rydym eisiau dod i adnabod y prif faterion a’r opsiynau posibl i bolisi cynllunio ymateb iddynt.

Er mwyn hwyluso’r broses, rhwng Tachwedd y 13eg a Rhagfyr y 12fed 2025, gwahoddwyd trigolion Parc Cenedlaethol Eryri i leisio’u barn ynghylch materion cynllunio allweddol yn eu hardal leol trwy gwblhau holiadur anffurfiol.

Yn gynnar yn 2026 byddwn yn ymgymryd â ‘Galwad am Safleoedd Ymgeisiol’ ffurfiol i’w hystyried ar gyfer datblygu. Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth ynghylch y broses galw am safleoedd yna cofnodwch eich diddordeb isod.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych yn dymuno derbyn gohebiaeth reolaidd ynglŷn â’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd (gan gynnwys ymgynghoriadau) yna cofrestrwch eich manylion gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Cofrestru ar fas-data cysylltiadau Cynllun Datblygu Lleol Eryri