Mae cofrestru ceisiadau yn cymryd hirach na'r arfer. Ymddiheurwn am hyn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system cysylltwch â cynllunio@eryri.llyw.cymru

Mae tair ffordd o wneud cais. Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio gwasanaeth Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru, lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan hon neu ofyn am ffurflen gais gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros y ffôn.

Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gael ar y dudalen Gwneud Cais am Ganiatâd Cynllunio.

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Y ffordd orau o wybod a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio ai peidio yw defnyddio’r gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais.

A oes angen caniatâd cynllunio arnaf?

Bydd eich ffi ymgeisio yn dibynnu ar y math o gais yr ydych yn ei gyflwyno. Ewch i’r dudalen ffioedd ymgeisio am ragor o wybodaeth.

Ffioedd Ceisiadau Cynllunio

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad ar gael ar dudalen y Pwyllgor Cynllunio a Mynediad.

Pwyllgor Cynllunio a Mynediad

Gallwch ddefnyddio’r cyfleuster Dilyn a Darganfod i ddilyn  cynnydd eich cais.

Chwilio Ceisiadau Cynllunio

Gallwch wneud sylwadau ar gais un ai trwy gysylltu â Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol neu trwy ddefnyddio ein cyfleuster Dilyn a Darganfod ar-lein. Rhoddir ystyriaeth i’ch sylwadau pan fyddwn yn edrych ar y cais, ac mae’n bosibl y cânt eu darllen yng nghyfarfod y Pwyllgor.

Sylw ar gais cynllunio